Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg gan ei fod yn sefydliad dwyieithog sy’n annog defnyddio'r Gymraeg. Mae wedi ymrwymo i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Gall pawb sy’n dod i gysylltiad â’r Cyngor ddefnyddio’r Gymraeg ar y ffôn a chael sgwrs drwy lythyr neu e-bost yn Gymraeg.  Mae pob dogfen gyhoeddus ar gael yn yr iaith, felly hefyd ei gwefannau a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ogystal â’r gwaith mae’r Cyngor yn ei wneud, mae’r Portffolio o gwmnïau sy’n derbyn arian yn flynyddol a derbynwyr grantiau hefyd yn ymrwymo i farchnata yn ddwyieithog.  Yng Nghynllun Corfforaethol Y Cyngor ar gyfer 2018 – 2023, sy’n dwyn y teitl “Er budd pawb…”, mae addewid pendant i feithrin creadigrwydd a chynyddu’r buddsoddiad yng ngwaith artistiaid sy’n dymuno gweithio yn Gymraeg neu’n ddwy-ieithog. 

Siân Tomos yw Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydym am i’r iaith ffynnu a pharhau i fod yn egnïol ac am wneud yn siŵr fod ein gweithwyr, ein cwsmeriaid a’r sector gelfyddydol drwyddi draw yn medru mwynhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.  Gall hyn fod yn y gwaith neu wrth fynd i un o’r miloedd o ddigwyddiadau celfyddydol rydym yn eu cefnogi ym mhob cwr o’r wlad.”

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:

“Bellach mae dros 120 o sefydliadau yn gweithredu safonau’r Gymraeg, sy’n golygu fod gan y cyhoedd hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda nhw.  Rydym yn falch fod sefydliadau megis Cyngor Celfyddydau Cymru wedi manteisio ar y cyfle heddiw i hyrwyddo’r hawliau ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg.  Gadewch i ni, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, wneud y mwyaf o’r hawliau hyn a dewis y Gymraeg.”

Hon yw’r flwyddyn gyntaf i’r ymgyrch genedlaethol gael ei chynnal. Dewiswyd y dyddiad gan mai ar y dydd hwn yn 2010 y cafodd y ddeddfwriaeth iaith ei phasio gan y Cynulliad.