Cefndir

Nod y gronfa yw cefnogi sefydliadau celfyddydol sy'n gweithio yn y sector dielw yng Nghymru sy'n cael anhawster ariannol o ganlyniad i golli incwm a phwysau llif arian yn sgil coronafeirws. Ein blaenoriaeth fydd y sefydliadau yna sy'n wynebu'r problemau ariannol mwyaf difrifol.

Gellir defnyddio'r arian i dalu am:

  • Gweithgarwch i alluogi eich sefydliad i oroesi yn wyneb effaith ariannol coronafeirws
  • ddatblygu a chyflwyno gweithgarwch newydd, heb ei gynnig o’r blaen, ac wedi ei gynllunio yn benodol i'w gyflawni yn ystod y chwe mis nesaf

Mae ein rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau celfyddydol yn rhan ganolog o fywyd Cymru. Mae rhai sefydliadau’n aelodau o Bortffolio Celfyddydol Cymru, sy'n adlewyrchu’r ffaith bod eu gweithgareddau’n digwydd drwy’r flwyddyn. Ond mae llawer rhagor y tu allan i'r Portffolio sydd hefyd yn chwarae rhan hollbwysig o ran darparu cyfleoedd i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

Gall y Portffolio a sefydliadau y tu allan i'r Portffolio ymgeisio am arian.

Ond bydd cymorth i’r Portffolio yn gyfyngedig i’r rhai sy'n bodloni meini prawf cymhwyso a throthwyon ariannu.

Mae'r meini prawf yn cynnwys:

  • i ba raddau y gall sefydliadau yn y Portffolio fanteisio ar rai, neu bob un, o'r pecynnau cymorth gan Lywodraethau Cymru a Phrydain
  • lefel arian cymorth grant cyfredol y Cyngor fel cyfran o incwm cyffredinol y sefydliad

Mae'r gronfa ar agor i geisiadau:

Ddydd Mawrth 21 Ebrill 2020 tan ddydd Gwener 8 Mai 2020

Rydym ni’n gobeithio gwneud penderfyniadau mewn 4 wythnos o'r dyddiad cau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Mai 8, 2020. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol gan gynnwys galw uwch na'r disgwyl, efallai y bydd angen i ni gau'r broses ymgeisio yn gynnar.

Beth i’w wneud os na allwch chi dderbyn arian o’r Loteri Genedlaethol

Os nad ydych chi’n gallu derbyn arian Loteri Genedlaethol am unrhyw resymau, dylech chi uwchlwytho llythyr gyda’ch cais yn esbonio pam mae hyn yn wir. Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n ceisio ariannu eich prosiect o arian o ffynonellau eraill.

Cymorth

BSL

Pe hoffech holi cwestiwn i ni trwy gyfrwng BSL, byddem yn hapus iawn i drefnu galwad fideo ar amser sy’n gyfleus i ni i gyd. Cysylltwch â ni trwy e-bostio grantiau@celf.cymru i gael gwybodaeth bellach.

Angen holi cwestiwn?

Gwyddom fod raid rhoi digon o amser i ymgeiswyr lunio eu ceisiadau ac felly ein dyddiad cau yw 5pm ar 8 Mai. Wrth gwrs gŵyl y banc yw 8 Mai felly rhaid cyflwyno cwestiynau inni eu hateb yn uniongyrchol erbyn 5pm ddydd Mercher 6 Mai. Anfonwch bob cwestiwn at: grantiau@celf.cymru

Dylech gyflwyno eich cais cyn y dyddiad cau rhag ofn y bydd anawsterau (yn enwedig os nad ydych chi wedi cyflwyno ar-lein inni o’r blaen).

Dechrau

Mae'r gronfa nawr ar gau.