Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gofyn i bawb yn sector y celfyddydau ac yn ehangach yng Nghymru i ddychmygu'r posibiliadau ar ôl y cyfnod cloi pan fydd modd ailffocysu’r sector.

Heddiw meddai Phil George, Cadeirydd y Cyngor:

"Bu'r wythnosau diwethaf yn eithriadol o anodd i'n sector. Rhaid i sefydliadau, lleoliadau, orielau, lleoedd ymarfer a swyddfeydd yn y sector gau ac mae ein swyddfeydd ni hefyd yn gorfod cau’n ddisymwth. Roedd yn rhaid i ninnau hefyd ymaddasu.

"Ein prif ffocws oedd lansio ar-lein ein cronfeydd gwytnwch brys gwerth £7.5 miliwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, Tŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Freelands. Ein blaenoriaeth oedd gwerthuso ceisiadau a chael arian brys i'r rhai sydd mewn angen. Mae gwytnwch a phenderfyniad y rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau yng Nghymru yn drawiadol. Rydym ni am wneud ein gorau glas i'w cefnogi yn ystod yr adeg anodd yma.

"Ar ôl llwyddo i gynnig ymateb brys, gallwn ni erbyn hyn neilltuo amser i feddwl am y sefyllfa yn yr hir dymor. Rhan ganolog o'n gwaith i ddatblygu strategaeth hir dymor i’r celfyddydau yw rhagweld i ba raddau y bydd ymddygiad pobl yn mynd yn ôl i'r hyn ydoedd ychydig fisoedd yn ôl. Gall arferion a phrofiadau newydd yr argyfwng gael dylanwad parhaol ar sut mae pobl yn ymddwyn.

"Nid oes neb yn dibrisio cynnig celfyddydol Cymru cyn yr argyfwng. Mae eu cyflawniadau wedi bod yn wych a dylid cynnal eu safon. Ond rydym ni hefyd yn argyhoeddedig bod rhaid i beth bynnag sy'n dod ar ôl yr argyfwng gael ffocws newydd a pheidio â bod dim ond yn gysgod gwan o ogoniant y gorffennol. Mae’n bosibl y bydd yr argyfwng yn rhoi cyfle inni sicrhau newid parhaol yn system y celfyddydau. Gallai newid fod yn dda i'r sector a'n gwerthoedd. Gallai newid fynd i'r afael â chydraddoldeb, amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol ymhlith y bobl sy’n mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

"Gwyddom fod llawer ohonoch chi'n edrych ar oblygiadau’r hir dymor, a ninnau hefyd. Nid oes gennym yr holl atebion, felly hoffem ni glywed eich syniadau a'ch sylwadau. Os ydych chi am rannu eich syniadau â ni, e-bostiwch: coronafeirws@celf.cymru."

    Ragor o wybodaeth

    1. Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu a chefnogi celfyddydau Cymru.
    2. Roedd £7.5 miliwn yn y gronfa wytnwch i’r celfyddydau a gyhoeddodd y Cyngor ar ddechrau Ebrill. Roedd £5 miliwn yn dod oddi wrth y Loteri Genedlaethol, a'r gweddill gan Lywodraeth Cymru, Tŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a hanner miliwn gan Sefydliad Freelands.

      Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, caiff £30 miliwn eu codi bob wythnos ledled Prydain at achosion da. Bydd llawer o’r arian yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned yn ystod yr argyfwng.