Mae Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn pwysleisio’r effaith gadarnhaol mae creadigrwydd yn ei gael ar iechyd pobl Cymru yn ystod argyfwng Coronafeirws*.

Ar drothwy Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac Wythnos Creadigrwydd a Llesiant, mae’n bwysicach nag erioed i bawb edrych ar ôl eu hunain yn ogystal â’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. 

Dangosodd Arolwg Cenedlaethol yn 2016-17 fod 440,000 o bobl yn teimlo’n unig neu wedi’u hynysu. Mae’n fwy na thebyg fod y rhif hwn yn llawer uwch oherwydd y cyfnod hwn o orfod aros yn y cartref.**

Mae bod yn unig ac wedi eich ynysu yr un mor niweidiol i’ch iechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd ac mae’r risg o farw’n gynnar 50% yn uwch o’i gymharu â’r rheini sydd â chysylltiadau cymdeithasol da. 

Mae artistiaid, y GIG a’r byrddau iechyd yn parhau i weithio’n galed i gynnig gwasanaethau o fudd drwy ddefnyddio technoleg i gynnig profiadau newydd i bobl yn ystod yr amser anarferol hwn.

Dywedodd Jayne Bryant, Aelod o’r Senedd (Gorllewin Casnewydd) a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol sy’n gyfrifol am Gelf ac Iechyd:

“Mae e’n iawn fod cyfyngiadau mewn lle i geisio atal lledaeniad COVID-19. Fodd bynnag, mae’n cynnig sawl her. Rydym ni ar wahân i’n teuluoedd a’n cyfeillion, mae’r patrymau beunyddiol a’r ffordd rydym ni’n cymryd rhan mewn digwyddiadau a chymdeithas wedi newid. Wrth inni i ddod i delerau â’r newidiadau hyn, rhaid talu teyrnged hefyd i ddewrder y GIG a’r gweithwyr hanfodol.”

“Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Iechyd a’r Celfyddydau rwy’n clywed yn aml am y budd sy’n dod o gynlluniau a gwasanaethau celfyddydau trwy Gymru ac yn fy etholaeth, Gorllewin Casnewydd. Mae dau ganlyniad sy’n amlygu’u hunain dro ar ôl tro yn aml yn arwain at leihau unigrwydd ac ynysu ac yn gwella bywyd llawer o bobl.” 

“Mae nifer fawr ohonom wedi troi at gelf am gefnogaeth yn ystod yr adeg anodd hwn. Boed yn enfys wedi’i pheintio mewn ffenest neu’n gymanfa ganu rithiol - mae’r gymuned gelfyddydol wedi addasu i wynebu’r heriau, ac mae tystiolaeth fod celfyddydau ac iechyd yn parhau i gydblethu a chyn bwysiced ag erioed.”

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae effaith gweithgareddau celfyddydol ar iechyd corfforol a meddyliol yn cael ei werthfawrogi erbyn hyn dros y byd yn grwn. Mae Cymru ar flaen y gad yng ngwledydd Prydain wrth inni weithio yn ein cymunedau amrywiol. Gwneir gwaith aruthrol gan ein hartistiaid a’r cydlynwyr celf yn ein Byrddau Iechyd a noddir ar y cyd gan Y Byrddau a Chyngor y Celfyddydau. 

“Ond nawr, mae galw o’r newydd ar y gronfa hon, sy’n llawn talent a phrofiad, i gydweithio’n ystod argyfwng. Mae ymateb yr artistiaid a’r sefydliadau sy’n gweithio’n agos â gweithwyr iechyd yn arloesol ac ysbrydoledig - maen nhw’n cael eu hannog gan eu diddordeb dwys mewn cynnig cyfleodd cyfartal a chynnwys pawb. Maent yn dangos unwaith eto, bwysigrwydd y celfyddydau ac iechyd i lesiant yng Nghymru.”

Dywedodd Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Conffederasiwn GIG Cymru:

“Tra bo’r NHS yng Nghymru’n canolbwyntio ar effeithiau’r Coronafeirws ar iechyd corfforol, rydym yn gweithio’n ddiflino i gynnig gwasanaethau hollbwysig all gyfrannu’n bositif at iechyd meddwl a llesiant.”

“Mae mentrau celfyddydau ac iechyd yn cael eu cynnig mewn ffyrdd arloesol er mwyn cydymffurfio â rheolau ymbellhau ond ar yr un pryd yn helpu ein llesiant ar adeg syn anodd inni gyd, ond yn arbennig felly i unigolion mwy bregus.”

“Mae ymateb y GIG a’r gymuned gelfyddydol wedi bod yn anhygoel wrth ini ddod o hyd i ffyrdd newydd o gynnal ein gwasanaethau a defnyddio technoleg newydd. Ond rydym hefyd yn ymwybodol iawn na allith pawb ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae tystiolaeth yn dangos fod y cynlluniau celfyddydol ac iechyd yn cael effaith gadarnhaol ddwys ar iechyd a llesiant a bydd cynnal y prosiectau yn ystod amseroedd anodd yn hanfodol wrth leihau effeithiau negyddol Coronafeirws a’r cau mewn.”

* How the arts are supporting the Welsh health and social care response to COVID-19: https://www.nhsconfed.org/resources/2020/05/how-the-arts-are-supporting-the-welsh-health-and-social-care-response-to-covid-19

** Briefing for the Cross-Party Group on Arts and Health: https://www.nhsconfed.org/resources/2019/03/cross-party-group-on-arts-and-health-briefing