Bwriad y cynllun peilot tri mis fydd darganfod anghenion iaith unigolion sy’n gweithio’n y celfyddydau, ac adnabod cyrsiau addas i roi hwb i’w Cymraeg.

Ar ddiwedd y cyfnod prawf, bydd gwerthusiad o’r cynllun i fesur pa mor llwyddiannus y bu o ran annog gweithwyr ym maes y celfyddydau i ddefnyddio a gwella eu Cymraeg.

Dywedodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae’r gwaith yr ydym wedi ei wneud eisoes fel rhan o’n rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ wedi profi  bod gweithio fesul sector yn medru talu ar ei ganfed. Mae’n gyffrous felly cael cyfnod o gyd-weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i weld faint o ddiddordeb sydd ym maes y Celfyddydau.”

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’r Gymraeg yn un o nodweddion amlwg ein diwylliant a’n hunaniaeth. Mae buddsoddi yn ein iaith yn fuddsoddiad yn ein creadigrwydd a’n hamrywiaeth, ac yn un o amcanion pwysicaf ein Cynllun Corfforaethol - Er Budd Pawb. Rydym yn falch iawn felly o gael cyd-weithio gyda’r Ganolfan er mwyn rhoi’r cyfle i bobl sy’n gweithio’n y celfyddydau i gael mynediad i adnoddau i wella eu Cymraeg neu ddysgu’r iaith. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun prawf hwn yn rhoi cyfle i staff blaen tŷ yn enwedig yn ein theatrau, canolfannau ac orielau i fanteisio ar y cyfle gwych hwn, ac y bydd hynny yn ei dro yn cynorthwyo’r cyhoedd yn ehangach.”

Bydd y cynllun prawf yn cael ei weithredu ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru gan gwmni Iaith Cyf. a gwahoddir unrhyw fudiad celfyddydol yng Nghymru sy’n dymuno bod yn rhan i gysylltu â Siwan Tomos cyn gynted â phosib trwy e-bostio  siwan.tomos@iaith.eu

DIWEDD                                                  dydd Mawrth 14 Ionawr 2020

Nodiadau i’r golygydd

Mae ‘Cymraeg Gwaith’ yn gynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle sy’n cael ei gynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer dechreuwyr yn dechrau mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru ym mis Ionawr – am fwy o wybodaeth, ewch i dysgucymraeg.cymru