Menter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru gyda chymorth Sefydliad Paul Hamlyn yw Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar.

Mae’r fenter yn tynnu Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o ddatblygu amgylcheddau a phrofiadau dysgu sy’n ysgogi datblygiad a chwilfrydedd naturiol plant 3-5 oed gan gyfoethogi eu hiaith, chwarae, datblygiad corfforol, ymgysylltiad â’r awyr agored, y celfyddydau, creadigrwydd ac ymdeimlad o ryfeddod a pherthyn.

Mae’n cyfuno egwyddorion craidd y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir na chynhelir ac addysgeg Arferion Meddwl Creadigol a dysg o’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Tri nod sydd yna i’r fenter:

  • tynnu Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio gwahanol ddulliau o weithio yn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, gan greu amgylcheddau a phrofiadau sy’n gyfoethog o ran iaith, chwarae, datblygiad corfforol, y celfyddydau, creadigrwydd ac yn cynorthwyo plant i gymryd y llyw o ran eu dysg.
  • deall rôl greiddiol creadigrwydd a chwarae yn natblygiad plant.
  • cyfuno egwyddorion creiddiol y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir na chynhelir gydag addysgeg Arferion Meddwl Creadigol a dysg y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Dyma rhai o’r manteision y gallwch eu disgwyl o gymryd rhan yn y fenter hon:

  • Cynnydd yn ymgysylltiad y plant, eu chwilfrydedd a’u chwarae’n gyffredinol.
  • Ysbrydoliaeth i Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar gyda syniadau a dulliau newydd o weithio sy’n hwyluso dysgu creadigol a ffocws ar Arferion Meddwl Creadigol ar draws y cwricwlwm, ac ar draws eu lleoliadau.
  • Hyder newydd wrth ddefnyddio gwahanol amgylcheddau a phrofiadau dysgu i gyfoethogi ymgysylltiad, gan gynorthwyo amgylcheddau i ddylunio’r Cwricwlwm.

Er nad yw hi’n bosibl tynnu arbenigedd creadigol proffesiynolion creadigol i mewn bob tro, mae yna gamau y gall Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar eu cymryd i sefydlu dulliau dysgu creadigol yn eu harferion. Mae’r hyb i athrawon yn cynnig ychydig o arweiniad ar sut y gallwch gymryd y camau cychwynnol i ddatblygu gweithgarwch dysgu creadigol yn eich lleoliad chi.

Wedi eich ysbrydoli gan y prosiect yma? Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y bwletin dysgu Creadigol.