Darganfyddwch sut mae ein rhaglen dysgu creadigol yn cynorthwyo athrawon i ddefnyddio dulliau creadigol o weithio mewn gwahanol gyd-destunau ac amgylcheddau.
Dysgu Creadigol yn y blynyddoedd cynnar
Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn adeiladu ar y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi hen fwrw gwreiddiau. Mae’n tynnu Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a Phroffesiynolion Creadigol ynghyd i greu amgylcheddau a phrofiadau sy’n gyfoeth o iaith, chwarae, datblygiad corfforol, cysylltiadau â’r awyr agored, y celfyddydau, creadigrwydd ac ymdeimlad o ryfeddod a pherthyn.
Y Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol
Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol yn manteisio ar ein profiad o hwyluso dysgu proffesiynol trwy’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol a’n dealltwriaeth a gwybodaeth ehangach am sut y gall arweinwyr ysgolion hyrwyddo arloesi yn eu lleoliadau.
Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol
Mae Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn manteisio ar ddulliau gweithredu’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ac yn cynnig cyfle i ysgolion weithio gydag amrywiaeth o Broffesiynolion Creadigol i edrych ar ffyrdd o archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol.
Ysgolion Creadigol Arweiniol
Nod y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yw sbarduno newid ar draws ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig Cymru wrth iddynt weithredu a sefydlu’r Cwricwlwm i Gymru, canolbwyntio ar addysgeg dysgu creadigol a dylunio’r cwricwlwm.