Trwy dynnu esiamplau o weithgarwch o bob rhan o’n rhaglen Dysgu Creadigol ynghyd, nod yr adnodd yma yw cynorthwyo athrawon ac arweinwyr ysgolion wrth iddynt archwilio’r potensial ar gyfer dysgu creadigol, a gweithredu a sefydlu’r Cwricwlwm i Gymru.

Bydd straeon prosiect, adnoddau a thystebau athrawon yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth am ddysgu creadigol wrth i chi geisio defnyddio dysgu creadigol yn eich arferion a’i ymestyn allan ar draws eich ysgol i gyd. Cewch wybodaeth hefyd am rai o’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig â’r nod o’ch cynorthwyo chi, dim ots ymhle rydych chi arni o ran y broses, a’ch cysylltu chi â meddylwyr o’r un anian o fyd y celfyddydau a’r byd addysg.