Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol am sbarduno newid ar draws ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig Cymru wrth iddynt weithredu a sefydlu’r Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio ar addysgeg dysgu creadigol a dylunio’r cwricwlwm.

Mae ein hymyrraeth mewn dau gam yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu eu harferion wrth archwilio’r Arferion Meddwl Creadigol a’r gofod dysgu gweithredol yn gyson â phedwar pwrpas craidd y Cwricwlwm i Gymru; gan ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, medrus a hyderus, sy’n gyfranwyr mentrus a chreadigol gyda sgiliau am oes. Mae’r cynllun yn annog arweinwyr ysgolion i sefydlu newidiadau o ran addysgeg ar draws eu lleoliadau trwy greu profiadau dysgu creadigol a dilys, gyda chymorth Asiantau Creadigol ac Ymarferwyr Creadigol.

location infographic icon
742
ysgol

Rhoddir Asiantau Creadigol i’r ysgolion i weithio gyda’r arweinwyr uwch ac athrawon er mwyn clustnodi sialensiau sy’n codi o gynllun datblygu’r ysgol a allai elwa ar ddulliau dysgu creadigol. Ar ôl cael hyfforddiant mewn addysgeg dysgu creadigol, mae’r athrawon yn mynd ati i weithio gyda’u Hasiantau Creadigol i ddylunio cwestiwn ymholi penodol i roi ffocws i’r dysgu.

Mae Ymarferwyr Creadigol yn cael eu recriwtio i gydweithio ag athrawon a dosbarth (neu grŵp bach) o ddysgwyr er mwyn dylunio a chyflawni profiadau dysgu difyr a dilys sy’n defnyddio’r arferion meddwl creadigol a’r ystafell ddosbarth weithredol i feithrin creadigrwydd a chyflawni nodau’r cwricwlwm. Mae’r dysgu’n digwydd dros hanner tymor neu dymor fel rheol, yn y dosbarth a’r tu hwnt. Mae’n ymateb i lais y disgybl ac yn canolbwyntio ar brosesau dysgu yn hytrach na chynnyrch terfynol neu fath penodol o gelfyddyd. Mae creu amser i fyfyrio ar y dysgu sy’n digwydd yn caniatáu i bawb o dan sylw benderfynu sut y gall eu dysg ddatblygu. Ar ôl cwblhau’r gweithgaredd, mae’r holl gyfranogwyr yn gwerthuso effaith y gweithgaredd ar yr athrawon, y dysgwyr a’r ymarferwyr creadigol. Caiff deilliannau’r gweithgaredd eu rhannu ar draws yr ysgol fel y gall athrawon eraill elwa ar yr hyn a ddysgwyd, y dulliau a’r arferion.

Mae’r prosiect yma wedi helpu i fy ngwneud i’n fwy dychmygus a chreadigol – os oes syniad gan rywun arall ac mae syniad gen i, gallwn roi’r ddau at ei gilydd a gweithio’n fyrfyfyr. Mae hi’n beth da – yn brofiad gwahanol.

Dysgwr, Y Cynllun Ysgolion Creadigol
people infographic icon
Mwy na 48,000 o gysylltiadau â dysgwyr

Mae athrawon sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi clustnodi’r manteision canlynol o gymryd rhan yn y cynllun:

  • mae’r dysgwyr ymgysylltu’n fwy ac yn cymryd perchnogaeth dros eu dysgu trwy gymryd rhan ym mhrosiectau’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae hyn yn gallu arwain at fwy o ymgysylltiad gan y rhieni hefyd.
  • mae cydweithio â’r Ymarferwyr Creadigol yn sbarduno creadigrwydd athrawon ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harferion.
  • mae’r rhaglen wedi helpu athrawon ac uwch reolwyr gyda’u dulliau o fynd ati i ddylunio’u cwricwlwm wrth roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith.

Mae’r adran clywed gan athrawon ar y wefan hon yn rhannu manteision eraill mabwysiadu dull gweithredu o ran dysgu creadigol.

Mae eu hannibyniaeth i’w gweld ymdreiddio i’r ystafell ddosbarth trwy feysydd dysgu eraill. Mae’r plant yn gofyn am gymorth yn llai aml o lawer, ac maen nhw’n dechrau datrys eu problemau eu hunain.

Athro, y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol
people infographic icon
Mwy na 2000 o gysylltiadau ag athrawon

Er nad yw hi’n bosibl tynnu arbenigedd creadigol proffesiynolion creadigol i mewn bob tro, mae yna gamau y gall athrawon eu cymryd i sefydlu dulliau dysgu creadigol yn eu harferion. Bydd yr hyb athrawon yn cynnig rhywfaint o arweiniad i chi ar sut i gymryd y camau cychwynnol i ddatblygu gweithgareddau dysgu yn y dosbarth.

Wedi eich ysbrydoli gan y prosiect yma? Bydd ceisiadau ar gyfer y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn agor yn Nhymor yr Haf. Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y bwletin dysgu Creadigol..