Heblaw am y grymoedd dirprwyedig, mae gan y pwyllgorau swyddogaeth ymgynghorol.

Adroddant i’r Cyngor ar berfformiad y gweithgareddau perthnasol i gylch gwaith pob pwyllgor. Mae'r pwyllgorau yn dod ag unrhyw faterion sy’n achosi pryder neu feysydd lle y gellid gwella at sylw’r Cyngor.


Mae chwech phwyllgor â grymoedd dirprwyedig:

  • Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Perygl
  • Pwyllgor Cyfalaf
  • Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol
  • Pwyllgor Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Pwyllgor Cydraddoldeb Strategol
  • Pwyllgor y Gymraeg

Bydd un grŵp ymgynghorol yn adrodd i'r Cyngor hefyd:

  • Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yn Fenis

Mae pob pwyllgor yn cynnwys Aelodau’r Cyngor ac unigolion sydd wedi eu cyfethol, ac maent yn gweithredu dan gylch gwaith penodol.