Fel corff a noddir gan Lywodraeth Cymru rydym yn gweithio o fewn fframwaith strategol y cytunir arni gyda Llywodraeth Cymru.

Strategaeth

Mae ein cyfeiriad strategol, ynghŷd â'r adnoddau arianol fydd yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwireddu rhaglen o waith y cytunir arni, yn cael ei amlinellu yn ein Llythyr Cylch Gwaith blynyddol.

Strwythur

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn penodi pwyllgorau er mwyn darparu cyngor arbenigol ac i benderfynu ar rai pethau a nodir o fewn y fframwaith pwerau wedi eu dirprwyo.

Egwyddorion a Safonau

Mae'r ffordd yr ydym yn gwireddu ein gwasanaethau o ddydd i ddydd, fel corff cyhoeddus, wedi ei osod o fewn fframwaith egwyddorion llywodraethol. Mae'r rhain yn cynnwys ein polisiau corfforaethol a'r rhai ar fod yn agored.

Adroddwn yn fewnol ar ein perfformiad yn erbyn safonau gwasanaeth, ac yn allanol i'n prif fuddsoddwr, sef Llywodraeth Cymru.