Sut mae diffinio creadigrwydd?

Cyn y gallwch ryddhau creadigrwydd, mae angen ei ddiffinio…

Rydyn ni'n defnyddio’r Pump Arfer Meddwl Creadigol i ddiffinio creadigrwydd. Bill Lucas, Guy Claxton ac Ellen Spence yng Nghanolfan Dysgu’r Byd Go Iawn, Prifysgol Caer-wynt (2013), fu’n gyfrifol am ddatblygu’r model yma. Gallwn feithrin y pump arfer yma, a’u his-arferion cysylltiedig mewn athrawon a dysgwyr. Mae defnyddio’r Arferion Meddwl Creadigol i ddiffinio creadigrwydd yn creu iaith y gall athrawon, dysgwyr a gweithwyr proffesiynol ei rhannu.

Mewn prosiect dysgu creadigol, gellir defnyddio’r Arferion Meddwl Creadigol i ganiatáu i ddysgwyr ddod yn fwy hunanymwybodol er mwyn sylweddoli pryd maen nhw’n defnyddio’u sgiliau creadigol. Gallant eu defnyddio hefyd er mwyn dod o hyd i ragor o gyfleoedd i fod yn greadigol.

Wrth gynllunio gweithgareddau yn y dosbarth, dylai athrawon geisio creu cyfleoedd i ddysgwyr ddangos eu creadigrwydd mewn ymateb i’r arferion creadigol. Dylent greu lle i ddysgwyr fyfyrio, hunanasesu a gwerthfawrogi eu creadigrwydd hefyd.

Mae copi o’r Arferion Meddwl Creadigol, ac ychydig o arweiniad ar sut i’w defnyddio, yn adran adnoddau’r wefan hon.

Beth yw dysgu creadigol?

Mae dysgu creadigol yn canolbwyntio ar y broses addysgu a dysgu.

Mae amgylchedd dysgu creadigol yn tynnu gweithgarwch celfyddydol a phrosesau creadigol ynghyd hefyd er mwyn helpu i gyfoethogi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar draws un neu nifer o feysydd o’r cwricwlwm.

Yn ein rhaglen, mae sgiliau proffesiynolion creadigol ac arbenigedd pwnc athrawon dosbarth yn cyfuno er mwyn archwilio’r broses o greu profiadau dysgu difyr a dilys sy’n canolbwyntio ar brosesau dysgu yn hytrach na chynnyrch artistig sefydlog. Caiff y dysgu ei greu trwy broses o gydweithio rhwng athrawon, proffesiynolion creadigol a dysgwyr er mwyn meithrin creadigrwydd a datblygu sgiliau a gwybodaeth pwnc.

Cwestiynu a herio sy’n nodweddu’r dysgu, ac mae hyn yn creu cysylltiadau, yn delweddu beth allai ddigwydd, yn archwilio syniadau, yn cadw opsiynau’n agored ac yn myfyrio’n feirniadol ar syniadau, gweithredoedd a deilliannau.

Er nad yw hi’n bosibl tynnu arbenigedd creadigol proffesiynolion creadigol i mewn bob tro (er y gall ein rhaglen eich cynorthwyo i wneud hyn) mae yna gamau y gall athrawon eu cymryd i sefydlu dulliau dysgu creadigol yn eu harferion. Mae rhai o’r camau hyn i’w gweld yn ein hyb i Athrawon.