Cefndir

Mae Ysgol Gynradd Tylorstown yn Rhondda Cynon Taf. Mae 177 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 41.5% o’r rhain yn eFSM. Nod y prosiect oedd datblygu llafaredd a dychymyg dysgwyr ym Mlynyddoedd 1 a 2.

Y Gweithgaredd
Dros gwrs tymor, cydweithiodd yr athro dosbarth a’r ymarferydd creadigol i archwilio straeon tylwyth teg traddodiadol â’r nod o annog y dysgwyr i ehangu eu dychymyg. Er mwyn datblygu Arferion Meddwl y dychymyg a chwilfrydedd, daeth y dysgwyr i adnabod y cymeriadau ac archwilio lleoliadau pob un o’r gwahanol straeon. Roedd y dysgwyr yn aml yn gyfarwydd iawn â’r straeon, ond yn ei chael hi’n anodd meddwl am unrhyw beth y tu hwnt i’r hyn roedden nhw eisoes yn ei wybod. Gwnaeth y sesiynau iddyn nhw feddwl am y ‘cyn’ ac ‘ar ôl’ a chreu delweddau gweledol o’r gwahanol fydoedd. Defnyddiwyd llwybrau storia a helfeydd trysor hefyd i gyflwyno’r dysgwyr i eiriau, seiniau a gwaith ysgrifennu, ochr yn ochr â chydweithio fel dosbarth. Datblygwyd ardal Ysgol Coedwig yr ysgol i gynnwys ‘Sied Dychymyg’ a gafodd ei dylunio a’i haddurno gan y dysgwyr. Daeth hyn yn bwynt ffocal ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau, ac roedd yn cynnwys amryw o bropiau a fu’n fan cychwyn ar gyfer gweithgareddau storia.

Effaith
Nododd yr athro bod hyder, creadigrwydd a sgiliau llafaredd y dysgwyr wedi datblygu. Nodwyd hefyd fod presenoldeb y dosbarth wedi gwella’n sylweddol wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen; ac yn ogystal gwelwyd brwdfrydedd dros fynd yr ysgol. Roedd y disgyblion yn siarad am y prosiect drwy’r amser a daethant ag eitemau i mewn o gartref i gyfoethogi’r gwaith. Ysgrifennodd un plentyn lythyr gan ‘y blaidd’ a’i adael ar ddesg yr athro. Dywedodd yr athro bod darn o waith ysgrifenedig a fyddai wedi cymryd wythnos i’w gwblhau fel rheol (gyda chwta un gair y dydd i rai dysgwyr) wedi cael ei gwblhau mewn dau ddiwrnod, ac aeth y disgyblion ati’n llawn brwdfrydedd.

Sylwodd yr ysgol ar newid yn ymgysylltiad y rhieni hefyd, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y rhieni a ddaeth i brynhawn agored. Priodolwyd hyn i’r ffaith fod y dysgwyr yn siarad am y prosiect gartref.

Mae’r athro dosbarth wedi magu hyder, ac wedi newid ei ddulliau o addysgu. Erbyn hyn, mae’n cynllunio ar y cyd ag athro arall yn rheolaidd, gan rannu syniadau, defnyddio’r adnoddau a grëwyd a dysgu o’r prosiect. Newidiodd yr athro ei agwedd at dystiolaeth ysgrifenedig a bellach mae’n gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu sgiliau llafaredd a’r dychymyg am fod y rhain yn hanfodol i ysgrifennu’n dda.

progress infographic icon
Mwy o ymgysylltiad gan rieni

Mae’r ffordd y mae’r plant wedi mwynhau’r Prosiect ac ymateb iddo wedi bod yn wych i’w weld. Mae eu hyder wedi cynyddu ac rwy’n siŵr y byddwn ni’n parhau i’w gweld nhw’n ffynnu yn y dyfodol.

Athro, Ysgol Gynradd Tylorstown
progress infographic icon
Mwy o hyder gan athrawon