Ers dechrau'r rhaglen yn 2015, mae 658 o ysgolion wedi cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gyda dros 1,700 o athrawon wedi profi'r budd o gydweithio â gweithwyr proffesiynol creadigol i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu.
Rydym ni’n gweithio ag ysgolion unigol er mwyn darparu rhaglen ddysgu sy’n ymateb i’w hangenhion. Mae gan Ysgolion Creadigol Arweiniol fynediad at arbenigwyr creadigol, eu sgiliau a’u hadnoddau er mwyn gwella dysgu ac addysgu. Mae’r broses gydweithredol hon yn hybu amgylchedd addysgu lle mae croeso i ddisgyblion i ofyn cwestiynau. Arweinia hyn at gyfleoedd i ddisgyblion wneud penderfyniadau am eu haddysg, tra’n bywiogi’r cwricwlwm yn ogystal.
Gan weithio ag Asiantau Creadigol, mae disgyblion yn ennill mynediad at arbenigwyr sydd â phrofiad o drafod creadigrwydd. Mae gan yr Asiantau Creadigol hyn gefndiroedd mewn meysydd sy’n amrywio o’r celfyddydau i’r diwydiannau creadigol, i’r gwyddorau a threftadaeth. Mae pob un o’n Asiantau Creadigol yn rhannu ein bwriad o gynnal ymarfer blaengar ym maes dysgu creadigol.
Gydag arweiniad a chymorth gan eu Asiantau Creadigol, gall ysgolion ganfod yr Ymarferwyr Creadigol sy’n addas i’w hanghenion. Mae’r Ymarferwyr Creadigol hyn yn datblygu perthnasau wedi’u seilio ar onestrwydd a didwylledd gyda staff yr ysgol. Rhan bwysig o’u rôl yw eu gallu i rannu eu taith greadigol gyda’r disgyblion, a dangos llwybrau at yrfaoedd yn y sector greadigol.
Mae pob prosiect yn unigryw ac wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael â heriau penodol a nodwyd yng nghynllun datblygu'r ysgol. Yn ogystal, ei nod yw meithrin creadigrwydd dysgwyr, codi cyrhaeddiad sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a chefnogi newid ysgol gyfan i baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022.