Dyluniwyd y cymorth canlynol i’r bobl hynny sydd am ymestyn eu harferion dysgu creadigol unigol. Gallai fod yn ddefnyddiol i uwch arweinwyr neu benaethiaid adran sydd am fabwysiadu dulliau dysgu creadigol ar lefel adrannol neu ysgol hefyd.
Rydyn ni’n cydnabod bod pob ysgol yn unigryw ac nad yw’n bosibl sefydlu un dull safonol o weithredu o ran integreiddio dysgu creadigol. Isod mae cyfres o adnoddau y gallai fod yn ddefnyddiol eu hystyried mewn perthynas â’ch lleoliad unigol chi, a’ch dull o weithredu o ran y Cwricwlwm i Gymru.
Un ffordd wych o ddatblygu dysgu creadigol yw siarad ag eraill sydd wedi cael profiad o’r peth. Mae sgyrsiau dysgu creadigol yn tynnu athrawon a phroffesiynolion creadigol o bob rhan o’r rhaglen dysgu Creadigol (a’r tu hwnt) ynghyd i gysylltu, rhannu, myfyrio a dysgu.
Mae rhagor o wybodaeth am sgyrsiau’r dyfodol yma.
Os ydych chi’n awyddus i gyflwyno dysgu creadigol i aelodau newydd o staff, gallech ddefnyddio rhai o’r gweithgareddau a gyflwynwyd yn ystod eich hyfforddiant cychwynnol gyda ni.
Rydyn ni wedi ailwampio’r gweithgareddau canlynol o’n hyfforddiant er mwyn i chi eu defnyddio’n hwylus yn eich lleoliad chi.
Mae’r rhain ar gael ar adran Adnoddau’r wefan hon.
Cardiau Post a’r 5 piler dysgu: sy’n ddefnyddiol i archwilio creadigrwydd a dysgu creadigol
Lansiwyd y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn 2015. Mae llawer o’r ysgolion a fu’n gysylltiedig â’r cynllun ar gam cynnar wedi plannu gwreiddiau’r creadigol ar draws eu safleoedd ac wedi integreiddio creadigrwydd i’w cwricwlwm. Cewch glywed am nifer o’r ysgolion unigol yma yn yr adran straeon am newid.
Mae’r adran pennau parablus yn cynnig esiamplau o athrawon yn siarad am sut mae dysgu creadigol wedi sbarduno newid ysgol-eang yn eu hysgolion nhw.
Mae llawer o’r athrawon a gymerodd ran ar gam cynnar yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi integreiddio dulliau dysgu creadigol i’w harferion pob dydd. Cewch glywed gan nifer o’r athrawon unigol yma trwy’r straeon am newid.
Mae’r adran pennau parablus yn cynnig esiamplau o athrawon yn siarad am sut mae dysgu creadigol wedi effeithio ar eu harferion addysgu.
Wrth integreiddio dysgu creadigol i’r lleoliad ehangach, mae hi’n ddefnyddiol pennu diffiniad ymarferol cyffredin o’r peth ar gyfer holl staff. Trwy gydol ein rhaglen, rydyn ni’n defnyddio model yr Arferion Meddwl Creadigol a ddatblygwyd gan Ganolfan Dysgu’r Byd Go Iawn. I’ch atgoffa, dyma’r pump arfer: Dychymyg, Chwilfrydedd, Dyfalbarhad, Cydweithredu a Disgyblaeth. Gellir rhannu’r arferion hyn yn is-arferion.
Mae’r model Arferion Meddwl Creadigol yn caniatáu i staff a dysgwyr weld creadigrwydd fel gallu pob dydd y gellir ei feithrin a’i ddatblygu yng ngoleuni profiadau newydd.
Fel ymarfer myfyrio fesul grŵp, byddem yn eich annog chi i lenwi’r Olwyn Arferion Meddwl Creadigol gyda’ch carfan o staff er mwyn sbarduno trafodaeth am gryfderau a gwendidau canfyddedig, a meysydd i’w datblygu.