Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â’u penderfyniad ynghylch grantiau cymorth y Cwricwlwm i Gymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o rannu cynnwys newydd rhaglen Dysgu Creadigol Cymru am y dair mlynedd nesaf.
Trwy roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg, bydd y rhaglen uchelgeisiol hon yn parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau newydd o ddylunio'r cwricwlwm, yn cefnogi athrawon i archwilio dulliau dysgu arloesol ac yn cefnogi dysgwyr i wireddu eu potensial yn llawn.
Rydym yn edrych i adeiladu ar lwyddiannau’r degawd diwethaf ble y llwyddom i weithio yn uniongyrchol gyda 1,397 o ysgolion ledled Cymru, gan alluogi 370,000 o ddysgwyr i gymryd rhan. Yn ogystal â hyn, darparwyd cyfleodd hyfforddiant i dros 7,500 o athrawon a chrëwyd gwaith ar gyfer dros 700 o weithwyr creadigol proffesiynol.
Bydd tair brif elfen yn perthyn i raglen newydd Dysgu Creadigol Cymru: Archwilio; Arbrofi; Arbenigo. Gweler isod am ragor o fanylion.

Archwilio
Bydd Archwilio yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol helaeth i ysgolion fynd i'r afael â meithrin ac adeiladu dulliau dysgu creadigol, yn benodol ar draws meysydd allweddol megis dylunio cwricwlwm, llythrennedd ac iechyd a lles. Dan arweiniad tîm profiadol Dysgu Creadigol Cymru sydd â gwybodaeth ddyfnach ar strategaethau addysgu arloesol, ar y cyd â charfan ddethol o Hwyluswyr Dysgu Creadigol, bydd y fenter hon yn gyflwyniad cadarn i addysgeg Dysgu Creadigol. Bydd y sesiynau’n cael eu cynllunio er mwyn ysgogi athrawon i ystyried dulliau addysgu sy’n ymateb i anghenion amrywiol dysgwyr, gan annog creadigrwydd, ymgysylltu a phrofiad dysgu cynhwysol. Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio arferion gorau, dadansoddi achosion o astudio, ac ymgymryd ag ymarferion ymarferol sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar brofiad dysgu disgyblion.
Arbrofi
Bydd Arbrofi yn cynnig platfform gweithredol i athrawon i gydweithio’n agos drwy ddull ymholiad, gyda chefnogaeth Partneriaid Creadigol, i ymgorffori dulliau dysgu creadigol ar lawr y dosbarth yn strategol ac yn ymarferol. Yn yr un modd ag Archwilio, bydd yr ymholiadau yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd, iechyd a lles a dylunio cwricwlwm. Bydd gofyn hefyd i destun yr ymholiad ymateb i gynllun datblygu yr ysgol, a chyfrifoldeb y Partner Creadigol fydd herio agweddau dysgu confensiynol ac amlygu syniadau amgen. Trwy weithredu drwy ddull ymholiad, bydd y tîm creadigol – athrawon, dysgwyr a’r Partneriaid Creadigol – yn adeiladu perthnasoedd cydweithredol cryfach a meithrin cyfathrebu effeithiol, gan gefnogi twf creadigol ac arloesol ar bob lefel.
Arbenigo
Mae Arbenigo wedi’i anelu at ysgolion sydd eisoes wedi datblygu gwybodaeth sylweddol am ddysgu creadigol ac sydd am ehangu ac integreiddio’r dulliau hyn ar lefel adrannol neu ar draws yr ysgol gyfan. Byddwn yn galw ar brofiad ac arbenigedd ysgolion fu’n rhan o’r cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol er mwyn rhannu arferion da gydag ysgolion eraill, yn ogystal â herio eu dealltwriaeth o ddysgu creadigol ymhellach. Byddwn yn annog cyfathrebu rhwng ysgolion ar lefel awdurdod lleol gan gryfhau’r gallu i gydweithio’n greadigol, datblygu arweinyddiaeth fewnol a sicrhau bod y dulliau creadigol yn cael eu meithrin yn sefydlog ac yn gynaliadwy. Bydd ein Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol bresennol yn parhau i gefnogi ysgolion wrth iddynt fireinio eu cwricwlwm a’u haddysgeg, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle cyfartal i wireddu'r pedwar diben.
Profi’r Celfyddydau
Yn ogystal â’r dair elfen newydd, bydd ysgolion yn parhau i elwa o gronfeydd Ewch i Weld a Rhowch Gynnig Arni Dysgu Creadigol Cymru. Mae'r cronfeydd hyn yn dod â'r Celfyddydau Mynegiannol yn fyw drwy gynnig ymweliadau â lleoliadau celfyddydol o ansawdd ledled Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu llafaredd, iaith a chyfathrebu drwy bum disgyblaeth Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol: celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol a cherddoriaeth.
Cyfleoedd i Ymuno
Byddwn yn hysbysebu cyfleoedd ar gyfer y rolau Partneriaid Dysgu Creadigol a Hwyluswyr Dysgu Creadigol ar y cyd maes o law, gan roi cyfle i ysgolion ac unigolion ddylanwadu ar y gwaith datblygu a chymryd rhan yn y rhaglenni drwy gydol y flwyddyn academaidd newydd. Bydd proses ymgeisio agored yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud gan unigolion sydd â’r angerdd, y sgiliau, a’r weledigaeth i ffurfio newid cadarnhaol a chynaliadwy i ddysgu creadigol yng Nghymru.