Mae sefyllfa ddifrifol ym mae problemau iechyd meddwl ein pobl ifanc. Bydd cam dau o ‘Gelfyddyd a Chrebwyll’ yn partneru sefydliadau a gweithwyr celfyddydol â thimau byrddau iechyd Cymru i ddatblygu dulliau creadigol i ymateb i’r her. 

Nod y rhaglen yw newid sut mae gweithgareddau celfyddydol yn cael eu hintegreiddio i wasanaethau iechyd meddwl a’u defnyddio fel adnodd rheolaidd.

"Mae effaith fawr y pandemig ar bobl ifanc yn parhau hyd heddiw. Mae pryder am yr hinsawdd, anghydraddoldeb, y cyfryngau cymdeithasol a chostau byw wedi effeithio’n wael hefyd ar iechyd meddwl. Mae’r argyfwng yn fwy pwysig nag erioed," meddai Liz Clarke, Rheolwr y Celfyddydau, Iechyd a Lles yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. 

"Mae’r celfyddydau'n dda iawn am roi llais i bobl sydd wedi’u gwthio i'r cyrion drwy eu problemau iechyd meddwl. Ein blaenoriaeth yw lliniaru ar anghydraddoldeb iechyd drwy'r celfyddydau.

"Mae ein partneriaid yn y GIG yn barod i dderbyn ffyrdd newydd o weithio ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd. Felly gyda chefnogaeth Sefydliad Baring, dwi’n siŵr ein bod ar fin cyflawni gwaith gwych."

Mae iechyd meddwl o hyd yn flaenoriaeth strategol i Bwyllgor Plant a Phwyllgor Iechyd y Senedd. Yn ôl Yr Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr 2024 gan Mind, yr elusen iechyd meddwl, mae nifer y plant a phobl ifanc gorbryderus sy’n mynd at ein gwasanaethau wedi cynyddu gan 34% rhwng 2015/16 a 2022/23. Yn ôl adroddiad Llesiant Cymru, 2024: Cymru iachach Llywodraeth Cymru, mae gan oedolion iau lai o les meddyliol ar gyfartaledd na'r rhai dros 65 oed.

Meddai David Cutler, Cyfarwyddwr Sefydliad Baring: "Rydym yn falch o fod mewn partneriaeth eto gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar gam dau o Gelfyddyd a Chrebwyll a fydd yn integreiddio'r creadigrwydd i becyn gofal iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Dyma brosiect pwysig arall sy'n dod o Gymru ac sy’n arwain y ffordd i wledydd eraill Prydain yn strategol a thraws-sectoraidd." 

Bu’r Cyngor yn cydweithio'n strategol â phartneriaid y GIG i archwilio sut mae creadigrwydd yn gallu cefnogi blaenoriaethau iechyd corff a meddwl fel rhan o becyn gofal.

Mae'r bartneriaeth yn seiliedig ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o fanteision y celfyddydau i iechyd a lles a chreu Cymru fwy cyfartal, fwy diwylliannol a mwy cynaliadwy. Mae'r bartneriaeth wedi’i ganmol gan sefydliadau dros y byd. 

Ymhlith y prosiectau yn ail gam y rhaglen mae:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Archwilio'r posibiliadau o ddefnyddio lleisiau pobl ifanc i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Ymgysylltu â nhw'n ddyfnach drwy ddarnau creadigol i annog, clywed ac ehangu eu straeon a'u profiadau gan eu hailsefydlu wrth wraidd y gwasanaeth.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrCefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn Sir Ddinbych a  Wrecsam sy'n wynebu problemau iechyd meddwl drwy gynnig ymyriadau creadigol, therapiwtig iddynt mewn lleoliadau anghlinigol. 
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Parhau i gyflwyno sesiynau creadigol i bobl ifanc 12-15 oed sy'n hysbys i wasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc gyda Chelfyddydau Sban, People Speak Up a Theatr y Byd Bach. Cynigiwyd gweithgareddau celfyddydol eang gan gynnwys animeiddio, gwaith yn yr awyr, dyddiadura, clai, paent, arlunio a throelli disgiau.
Bwrdd Iechyd Addysgu PowysCynhyrchir rhaglen o weithgareddau creadigol a gweithdai ar y cyd â phobl ifanc a gefnogir gan wasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae AbertaweProsiect celfyddydol â’r nod o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol mewn gweithgareddau sy'n annog creadigrwydd wrth wella cysylltiad â'u cyfoedion, eu teuluoedd ac ag adnoddau lleol a natur.
Ymddiriedolaeth Prifysgol FelindreGwahanol raglenni creadigol ar gyfer gofalwyr ifanc a phobl ifanc a gafodd brofedigaeth.