Ar 30 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £53 miliwn ar gyfer Cronfa Adfer Ddiwylliannol. Clustnodwyd £27.5 miliwn o'r gronfa i'w dosbarthu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn Awst 2020, agorodd y gronfa i geisiadau oddi wrth sefydliadau (gan gynnwys theatrau, cwmnïau theatr, canolfannau celfyddydol, orielau, corau a bandiau pres) sy'n gweithio ym meysydd cerddoriaeth, dawns, theatr, llenyddiaeth, y celfyddydau gweledol a chymhwysol, y celfyddydau cyfun, a’r celfyddydau digidol.

Roedd yn rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn darparu gweithgarwch celfyddydol hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru, a bod y coronafeirws wedi effeithio'n sylweddol arnynt. Prif nod y gronfa oedd achub ac adfer y sector yng Nghymru gan wneud yn siŵr ei fod yn goroesi’r argyfwng mewn ffordd fywiog, hyfyw a chynaliadwy .

Roedd 2 elfen i'r arian cyfalaf i sefydliadau addasu eu lleoliad i ymdopi ag ymbellhau cymdeithasol (£2 miliwn) a refeniw i’w helpu gyda phroblemau ariannol brys a diogelu swyddi (£25.5 miliwn). Gallai sefydliadau ymgeisio i’r 2 elfen o’r gronfa sydd ar gyfer Hydref 2020- Mawrth 2021. 

Mae rhestr lawn o'r rhai sydd wedi derbyn grant ar gael yma.

Meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Mae cyflymder ac effeithlonrwydd staff Cyngor Celfyddydau Cymru wrth ddosbarthu grantiau o’u helfen nhw o'r gronfa yn drawiadol iawn. Mae'r angen ymhlith sefydliadau celfyddydol wedi bod yn amlwg yn ystod y misoedd diwethaf – a mae taliadau wrthi ar hyn o bryd yn cael eu cymeradwyo a’u dosrannu yng nghyswllt elfen Llywodraeth Cymru o’r Gronfa Adfer Ddiwylliannol a’r Gronfa Weithwyr Llawrydd – gyda’i gilydd bydd y gronfa yn gymorth i wneud yn siŵr bod sector y celfyddydau'n cael ei gefnogi yn ystod y misoedd nesaf wrth fod cyfyngiadau Cofid-19 yn parhau.

"Mae'n amlwg bod gan y sector ran hollbwysig i'w chwarae i adnewyddu ac adfywio cymdeithas ac economi Cymru wrth inni edrych ar y gorwel y tu hwnt i’r cyfyngiadau presennol."

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Hoffwn ddiolch ar ran y sector i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth werthfawr. Mae’n cydnabod pwysigrwydd y celfyddydau i Gymru, a'r angen i gadw’r sefydliadau sy'n dod â'r fath bleser a mwynhad i gynifer o bobl. Mae’n fuddsoddiad yn nyfodol celfyddydau Cymru sy’n ymddangos mor ansicr ar hyn o bryd."

Dywedodd Nick Capaldi Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae'r arian yn rhoi cymorth brys i'r llu o sefydliadau ledled Cymru sy’n wynebu perygl ariannol difrifol. Os ydym ni am gael celfyddydau bywiog a chyffrous ar ôl i effeithiau’r feirws gilio, rhaid inni gymryd camau brys yn awr i’w diogelu."

Mae'r arian a gyhoeddir heddiw yn cefnogi sefydliadau pwysig, mawr a bach, ledled Cymru. Ymhlith derbynwyr y grantiau cyfalaf a refeniw mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth (£599,448;) Band Porth Tywyn (£12,880); Chapter, Caerdydd (£558,993); Band Cory, Treorci (£19,855); Celfyddydau Anabledd Cymru (£33,349); Côr Forget-me-not, Caerdydd (£22,500); Galeri, Caernarfon (£934,424);Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (£189,074);Oriel Davies, Y Drenewydd (£61,935); Canolfan Theatr a Chelfyddydol Glan yr Afon, Casnewydd (£126,770); Canolfan Grefft Rhuthun (£32,689);Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (£1,208,710); Theatr Mwldan, Aberteifi(£228,000); Tŷ Pawb, Wrecsam (£96,411); Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd (£3,900,180).

Derbyniwyd 160 cais i'r gronfa refeniw. Gwerth yr holl geisiadau oedd £19,040,043 gyda’r dyfarniad lleiaf yn £1,700 a'r mwyaf yn £3,406,352 (ar gyfartaledd, dyfarnwyd £119,019). Roedd 95% o’r ceisiadau’n rhai llwyddiannus a chyfanswm yr holl grantiau oedd £18,091,013.

Rydym ni’n amcangyfrif bod  o leiaf 1,800 o swyddi wedi eu diogelu ar draws Cymru.

Derbyniwyd 61 cais i'r gronfa gyfalaf. Gwerth yr holl geisiadau oedd £2,164,332 gyda’r dyfarniad lleiaf yn £1,995 a'r uchaf yn £493,828 (ar gyfartaledd dyfarnwyd  £34,234). Roedd 92% o’r ceisiadau’n rhai llwyddiannus a chyfanswm yr holl grantiau oedd £1,917,126.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus hefyd wedi ymrwymo i Gontract Diwylliannol gyda’r nod o annog sefydliadau i gyrraedd rhagor o bobl, i wella amrywiaeth eu byrddau rheoli a'u gweithlu, i ddarparu cyfleoedd newydd i artistiaid llawrydd, ymrwymo i dalu cyflog teg ac i wella eu heffaith amgylcheddol

 

    Ragor o wybodaeth

    1. Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus swyddogol sy'n gyfrifol am ariannu a chefnogi celfyddydau Cymru.
    2. Bu’r Cyngor yn rheoli arian i theatrau, canolfannau celfyddydol, neuaddau cyngerdd, orielau a sefydliadau sy'n cynhyrchu, sy’n teithio gwaith ac sy'n cynnal gweithgarwch cyfranogol (gan gynnwys ceisiadau masnachol, y sector cyhoeddus, awdurdodau lleol a phrifysgolion).
    3. Agorodd ceisiadau i'r gronfa ddydd Llun 17 Awst a daeth i ben ddydd Mercher 9 Medi. Addawyd y byddai sefydliadau’n cael gwybod am ganlyniad eu cais mewn chwe wythnos (erbyn 21 Hydref). Mae pob sefydliad bellach wedi cael gwybod. Mae rhestr o’r derbynwyr a maint y grantiau i’w gweld yma.
    4. Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli arian ar gyfer lleoliadau cerddorol ar lawr gwlad, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd, gwasanaethau archifau, digwyddiadau, gwyliau, sinemâu annibynnol a gweithwyr creadigol llawrydd. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r arian sydd ganddi i’w gynnig dros yr wythnosau nesaf.