Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cadarnhau rhai o'r wynebau newydd fydd yn ymuno â'i uwch dîm wrth i ailstrwythuro'r sefydliad gymryd cam ymlaen.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Hannah Raybould fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Phartneriaethau
- Rosie Dow fel Pennaeth y Celfyddydau, Iechyd a Lles
- Hannah Jenkins fel Pennaeth Pobl Ifanc a Sgiliau
Mae dau aelod o staff wedi symud i swyddi newydd: Lisa Matthews-Jones, sydd bellach wedi'i chadarnhau fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau a Louise Wright a fydd yn ymgymryd â swydd newydd fel Pennaeth y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol.
Dywedodd Dafydd Rhys, Catryn Ramasut a Lorna Virgo, Tîm Arwain Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru,
"Rydym yn falch iawn o fod wedi denu'r unigolion talentog hyn i’r tîm. Bydd eu dyfnder o brofiad yn helpu i lunio dyfodol celfyddydau Cymru. Roeddem wedi cael dros 2,000 cais am grantiau dim ond y llynedd. Roeddem hefyd wedi cefnogi cannoedd o sefydliadau ac artistiaid i wireddu prosiectau beiddgar, creadigol ac effeithiol. Nid cynnal ein rhaglenni presennol yn unig yw bwriad y penodiadau. Byddant yn fodd i ddatgloi posibiliadau newydd, hyrwyddo arloesedd a sicrhau bod y celfyddydau yn parhau i’n synnu, ein herio a’n hysbrydoli."
Mae'r gwaith o recriwtio i’r swyddi Pennaeth Dawns, Pennaeth Theatr, y Celfyddydau Perfformio a Theithio a Phennaeth Cerddoriaeth yn parhau.
Mae'r newidiadau i strwythur ein staffio’n ymateb i adborth y sector sydd am inni roi rhagor o sylw i bob celfyddyd a chynnig mynediad haws at arbenigedd a gwybodaeth benodol pan fo angen.
Dan arweiniad Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Catryn Ramasut, mae'r gyfarwyddiaeth gelfyddydol wedi'i hailstrwythuro â’r nod o gryfhau'r ddarpariaeth ar draws rhaglenni allweddol a hyrwyddo rhagoriaeth yn y celfyddydau gwahanol. Bydd y Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Phartneriaethau, Hannah Raybould, yn goruchwylio timau sy'n arwain ein meysydd trawsbynciol o flaenoriaeth (Y Celfyddydau ac Iechyd, Pobl Ifanc a Sgiliau, Dysgu Creadigol, ac Ymgysylltu a Chymunedau gan gynnwys Noson Allan). Bydd Dirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau, Lisa Matthews-Jones, yn gyfrifol am dimau’r celfyddydau (Cerddoriaeth, Theatr, y Celfyddydau Perfformio a Theithio, Y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol, Dawns ac Arloesi, Y Celfyddydau Digidol a Rhyngddisgyblaethol).
Ychwanegodd y Tîm Arwain Gweithredol:
"Rydym yn gwneud cynnydd mawr gyda'r recriwtio ac wrth ein bodd bod trawsnewid ein strwythur yn camu ymlaen. Rydym yn disgwyl gorffen y broses erbyn Ionawr. Bydd yn ein rhoi mewn sefyllfa gref ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hoffem estyn ein diolch mawr i gydweithwyr a fydd yn ymadael ddiwedd y flwyddyn am eu cefnogaeth barhaus i sicrhau trosglwyddo llyfn. Nid oes angen i’r sefydliadau ac unigolion rydym yn gweithio gyda nhw gymryd unrhyw gamau nawr - byddwn yn rhoi gwybod ichi os bydd eich cyswllt yn y Cyngor yn newid."