Heddiw, dydd Llun 31 Mawrth, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi’r cyntaf o dri adroddiad sector allweddol a fydd yn ymddangos cyn yr haf. Mae'r adroddiad cychwynnol yn canolbwyntio ar y theatr Saesneg yng Nghymru. Bydd yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr a chynllun gweithredu sydd â’r nod o gefnogi ac adfywio'r sector hanfodol yma.
Yr awdur a'r darlledwr adnabyddus Dr Jon Gower a wnaeth yr adolygiad mewn ymateb i Adolygiad Buddsoddi’r Cyngor yn 2023. Y bwriad oedd ystyried:
a) y ddarpariaeth bresennol o theatr Saesneg yng Nghymru
b) sut orau i gefnogi sgiliau creadigol a thalent yn y maes er budd artistiaid a chynulleidfaoedd ledled Cymru a’r tu hwnt
Ymhlith y prif argymhellion mae:
- dyddiadau cau penodol o ran ariannu cynyrchiadau theatr
- creu panel theatr ag aelodaeth amrywiol a chynrychioliadol o Gymru a’r tu hwnt i oruchwylio'r cynllun gweithredu
- cronfa i gefnogi gwaith ar raddfa fwy a llywio’n well ymchwil a datblygiad y theatr
- calendr blynyddol o ddigwyddiadau a mentrau hyfforddi â’r nod o gryfhau'r sector a chynyddu gallu marchnata lleoliadau a dadansoddi data
Mae pob un o'r 25 argymhelliad yn yr adroddiad llawn.
Roedd yr adolygiad yn cynnwys arolwg ar-lein a thros 120 cyfarfod wyneb yn wyneb. Digwyddodd ar adeg dyngedfennol i’n theatr Saesneg yn sgil y penderfyniad i beidio â rhoi arian craidd bob blwyddyn i National Theatre Wales. Yn ddiweddar roedd National Theatre Wales wedi ymgyflwyno ar ei newydd wedd fel Welsh National Theatre gyda Michael Sheen yn gyfarwyddwr artistig iddi. Mae tîm National Theatre Wales bellach yn elusen annibynnol ar wahân sy'n canolbwyntio ar gysylltu’r celfyddydau â chymunedau.
Ar yr un pryd â chynnal yr adolygiad, roedd gwaith adnewyddu’n digwydd yn Theatr Clwyd gan greu Stiwdio Clwyd i ddatblygu artistiaid ac adnoddau cenedlaethol. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd am adeilad newydd a rhagor o gyfleoedd sgiliau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae’r awdur yn ysgrifennu’r adolygiad ar adeg ble mae llawer o sefydliadau celfyddydol yn wynebu problemau oherwydd costau cynyddol, argyfwng y costau byw a llai o arian cyhoeddus i’r celfyddydau. Roedd rhywfaint o arian wedi dod i’r fei yn Nhachwedd 2024 drwy Gronfa Gwarchod Swyddi a Gwytnwch Cyngor y Celfyddydau, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Roedd yn gymorth mawr i 60 sefydliad celfyddydol.
Jon Gower said,
Meddai John Gower:
"Mae'r adroddiad yn ffrwyth llawer iawn o gyfweliadau ag aelodau o gymuned y theatr yng Nghymru. Roedd pawb yn agored gan ddadlennu’r gwir plaen wrthyf. Hanfod y theatr yw cydweithio ac felly nid oedd yn syndod bod pobl mor barod â’u syniadau am annog uchelgais a sicrhau cynaliadwyedd y sector. Gobeithio y bydd yr adroddiad yn adlewyrchu eu safbwyntiau’n glir. Diolch yn fawr i Gyngor y Celfyddydau am dderbyn argymhellion yr adroddiad a datblygu cynllun gweithredu mor gyflym i sicrhau newid."
Mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad, mae Cyngor y Celfyddydau bellach yn rhoi ar waith gynllun gweithredu sydd wedi'i gostio'n llawn at flwyddyn ariannol 2025/26 i gefnogi’r theatr Saesneg yng Nghymru.
Ychwanegodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau:
"Bydd rhai camau yn y cynllun gweithredu’n gallu digwydd yn gynt nag eraill. Mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau bod yr adroddiad yn llywio newid strwythur arian y Loteri a dod o hyd i gyfleoedd i ariannu ysgrifennu newydd a datblygu gwneuthurwyr theatr. Cyfarfod mis Mai ein Cyngor fydd yn ystyried yn fanylach bob un o'r 25 argymhelliad.
"Hoffwn ddiolch i Jon Gower am ei waith trylwyr ar yr adolygiad ac i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu ato. Mae’r adolygiad nawr ar ben ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r sector i weithredu'r camau allweddol i symud ein theatr Saesneg ymlaen."