Mae’r Cyngor yn falch o gyhoeddi'r derbynwyr diweddaraf arian y Loteri Genedlaethol drwy ei raglen, Creu. Mae'r grantiau ar gael i sefydliadau ac unigolion i gefnogi prosiectau celfyddydol uchelgeisiol ac o safon ledled Cymru sy'n taro 6 Blaenoriaeth Strategol y Cyngor. Dyma’r 6: creadigrwydd; ehangu ymgysylltiad; y Gymraeg; cyfiawnder hinsawdd; meithrin talent; trawsnewid.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym wrth ein bodd i gefnogi'r prosiectau rhagorol yma. Maent yn adlewyrchu ehangder y dalent a’r uchelgais artistig ledled Cymru. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’n bosibl inni fuddsoddi mewn creadigrwydd, ymgysylltu â'r gymuned a datblygu diwylliant.
"Mae'r grantiau’n ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi rhagoriaeth greadigol a sicrhau bod lleisiau a safbwyntiau amrywiol yn llywio dyfodol celfyddydau Cymru."
Mae rhestr lawn o’r grantiau yma.
Dyma flas ar y prosiectau rydym wedi'u hariannu.
- Gwobr Artes Mundi (£101,730) - arddangosfa a gwobr yn y celfyddydau gweledol cyfoes yng Nghaerdydd sy'n cefnogi artistiaid rhyngwladol. Mae’n digwydd bob dwy flynedd a dyma un o wobrau celfyddydol mwyaf Prydain. Yn ei rhaglen gyhoeddus rhifyn 11 bydd ystod gynhwysol o ddigwyddiadau, gweithdai a chyfleoedd mentora hygyrch sy’n cysylltu themâu rhyngwladol â chymunedau Cymru.
- Cwmni Mega (£100,000) - bydd "Brenin March" yn gynhyrchiad teithiol Cymraeg i’r theatr. Bydd yn dod â chwedl yr hen Frenin March ap Meirchion yn fyw i blant a theuluoedd mewn 15 lleoliad gwahanol ledled Cymru.
- Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Trefiwt (£50,000) - bydd Carnifal 2025 yn adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd a fu gan gynnwys gweithdai mwy, comisiynau artistig mwy a thechnoleg ymgolli.
- Jones the Dance (£56,584) - Mae "I Remember Myself" yn brofiad dawns ymgolli sy'n gwahodd cynulleidfaoedd i ail-fyw eu hatgofion. Cafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth ag Oriel Davies, y Drenewydd.
- Syrcas Gymunedol NoFit State (£50,000) - bydd digwyddiad ar raddfa fawr yn ardaloedd Trefadda, Tremorfa a Sblot yng Nghaerdydd a fydd yn dod â chymunedau at ei gilydd drwy berfformiad, cerddoriaeth a dathliadau diwylliannol.
- Peak Cymru (£53,332) – bydd Peak Peers 2025/26 yn meithrin artistiaid ifanc yng nghefn gwlad Cymru gan estyn ymgysylltiad artistig ac ecolegol.
- Common/Wealth (£51,400) - mae "Demand the Impossible" yn gynhyrchiad theatr newydd a grymus sy'n trafod gwyliadwriaeth gan yr heddlu a gweithredu. Bydd y perfformiad cyntaf yng Nghasnewydd.
- Ymddiriedolaeth Neuadd Les a Chymunedol y Glowyr, Ystradgynlais (£50,000) - bydd rhaglen o’r celfyddydau cyfranogol a theatr yn parhau â gwaith y Neuadd yn ganolfan ddiwylliannol fywiog i'r gymuned.
- Cymuned Artis (£50,000) – mae Gyda'n Gilydd 2025 yn fenter ddawns, cerddoriaeth a ffilm sy'n meithrin cynhwysiant a chreadigrwydd yn Rhondda Cynon Taf.
- Dawns Joon (£50,000) - rhaglen ddawns gyfranogol sy'n grymuso cymunedau amrywiol yn Sir Benfro.
- Gŵyl Gerdd Ryngwladol y Gogledd (£50,000) – digon hysbys gan wyddonwyr ledled y byd yw pwysigrwydd cerddoriaeth a'r celfyddydau i gefnogi iechyd meddwl da. Bydd yr Ŵyl yn dathlu’r cysylltiadau cryf rhwng cerddoriaeth a'r meddwl dynol wrth ymchwilio i fyd amlochrog canfyddiadau.
- Triongl (£50,000) – mae 'A oes unrhyw un yno?' yn ddrama ddwyieithog newydd mewn partneriaeth â Theatr Soar, Merthyr sy'n archwilio galar ac ochr ysbrydol bywyd.
- Theatr y Sherman (£48,836) - mae'n cefnogi’r bedwaredd flwyddyn o weithgarwch i sefydlu adran lenyddol barhaol yno. Ers ei sefydlu yn 2021, mae'r adran wedi cefnogi a datblygu dros 500 awdur drwy fentrau, cyfleoedd agored a chefnogaeth ddramatwrgaidd o safon.
- Menter Iaith Fflint a Wrecsam (£47,518) - mae’r Sîn ar y Ffin yn rhwydwaith o bobl ifanc a fydd, gyda chefnogaeth, yn trefnu gigs, perfformiadau, gweithdai, sesiynau ac ymgyrchoedd i hyrwyddo'r sîn gerddorol Gymraeg gan roi profiadau celfyddydol o safon i blant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.
- Gŵyl Animeiddio Caerdydd (£35,000) – mae’n ŵyl sy'n dathlu animeiddio yng Nghaerdydd ac ar-lein (17–18 Mai 2025). Gyda ffocws ar effaith gymunedol a chymdeithasol, mae'n canolbwyntio ar les, yr amgylchedd, niwroamrywiaeth, cymunedau sydd wedi'u tangynrychioli, datblygiad creadigol a chefnogaeth i bobl ifanc a theuluoedd.