Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cadarnhau na fydd modd cynnig y cyfle i sefydliadau newydd gael arian amlflwyddyn ym mlwyddyn ariannol 2025/26. Nid yw hyn yn effeithio ar yr holl gyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael drwyddo gan gynnwys Creu, rhaglenni Loteri eraill ac arian targedol.

Mae 81 sefydliad ledled Cymru yn cael arian amlflwyddyn yn sgil Adolygiad Buddsoddi 2023. Fel rhan o'r Adolygiad, gwnaethpwyd ymrwymiad i ystyried rhoi cyfle blynyddol i sefydliadau newydd ymgeisio am arian amlflwyddyn. Yn wreiddiol roeddem wedi bwriadu cynnal y rownd ymgeisio nesaf ym Mawrth 2025.

Wrth egluro'r gohiriad, meddai Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys:

"Yn Rhagfyr cawsom gadarnhad o gyllideb ddrafft am gymorth grant Llywodraeth Cymru a oedd yn gynnydd bach o 3.6%. Mae'r sefydliadau presennol sy’n cael arian amlflwyddyn wedi cael gwybod y byddant yn cael cynnydd o 2.5% yn eu harian eleni ar yr amod bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ein cyllideb.

"Ar ôl dwys ystyried y pwysau sydd ar ein sefydliadau amlflwyddyn presennol a'n sefyllfa ariannol ein hunain gyda’r toriad o 10.5% a fu yn ein harian y llynedd, rydym o’r farn mai ychydig iawn o hyblygrwydd ariannol sydd gennym o ran ariannu sefydliadau amlflwyddyn newydd. 

“Rydym yn gwybod mai siom fydd hyn i sefydliadau a oedd yn gobeithio ymgeisio i fod yn sefydliad amlflwyddyn eleni. Ond rydym wedi ystyried hyn yn ofalus ac mae’n gwneud synnwyr o ran yr adolygiad o'r 81 sefydliad amlflwyddyn presennol fydd yn digwydd ar ddiwedd blwyddyn dau o’u cytundeb tair blynedd, yn chwarter cyntaf 2026. Bydd hyn yn rhoi darlun cliriach inni am sut mae'r sector yn datblygu a lle bydd ein harian yn gwneud gwahaniaeth.

"Rydym yn grediniol mai dyma’r penderfyniad cywir ar hyn o bryd. Os yw’r sefyllfa ariannu’n newid yn sylweddol dros y flwyddyn nesaf, efallai y byddwn yn gallu ystyried cyfleoedd arian amlflwyddyn ym Mawrth 2026."