Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad Dewch i ddathlu! Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau cenedlaethol wythnos o hyd yng Nghaerdydd, nôl ym mis Ebrill, mae Cyngor Celfydyddau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad pellach. Bydd y dathliad diwrnod o hyd yn tynnu sylw at lwyddiannau’r rhaglen arloesol, Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau – cynllun gweithredu dros Gymru.

Bydd y digwyddiad hwn, i’w gynnal yn Venue Cymru, Llandudno,  yn rhoi llwyfan i’r gwaith blaengar lle bo athrawon, artistiaid a dysgwyr yn dod ynghyd er mwyn dangos y gwahaniaeth y gall y celfyddydau a chreadigrwydd ei wneud yn yr ystafell ddosbarth, sut y mae’n cefnogi’r amrywiol ffyrdd y gall dysgwyr ei ddysgu, a rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu ynghylch y cyffro o weithio’n fwy creadigol.

Dywedodd Nia Richards, arweinydd rhanbarthol gogledd Cymru ar gyfer dysgu creadigol trwy’r celfyddydau:

“Mae’r rhaglen hon wedi gwefru ysgolion led-led Cymru i roi celfyddyd a chreadigrwydd yn ganolog o fewn y cwricwlwm. Mae dros 130 o ysgolion led-led gogledd Cymru wedi manteisio ar y ffordd hon o weithio, a heddiw, byddwn yn dathlu’r llwyddiannau rhyfeddol sydd wedi ei gwireddu gan yr athrawon, yr artistiaid proffesiynol, a’r dysgwyr sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen.”

Cynhelir Dewch i Ddathlu! Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau yn Venue Cymru, dydd Mercher, 17 Gorffennaf. Medrwch ddod o hyd i amserlen lawn y digwyddiad yma.