Galw ar weithwyr creadigol – Ymunwch â’n Rhaglen Arbrofi i’n helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghymru.

Ydych chi’n artist neu oes gennych chi brofiad helaeth o ymarfer creadigol? Ydych chi’n credu ym mhwysigrwydd creadigrwydd mewn addysg? Allwch chi danio dychymyg pobl ifanc? Os felly, rydym am glywed gennych chi.

Beth ydym ni'n chwilio amdano?

Rydym yn cynnig cyfle unigryw i fod yn rhan o raglen sydd â'r nod o daflu golau newydd ar addysgu a dysgu. Rydym yn chwilio am weithwyr creadigol proffesiynol profiadol i ymuno â'r Rhaglen Arbrofi fel Partneriaid Dysgu Creadigol, i gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno arbrofion dysgu drwy ddull ymholiad mewn ysgolion ledled Cymru.

Bydd Partneriaid Dysgu Creadigol yn:

* Cydweithio ag athrawon a dysgwyr, i ddod â'r cwricwlwm yn fyw gan weithio drwy ddull ymholiad yn yr ystafell ddosbarth; â’r cyfan wedi'i wreiddio mewn addysgeg Dysgu Creadigol

* Cyd-greu a threialu syniadau newydd, gan ddefnyddio eu sgiliau creadigol i helpu i ymgorffori creadigrwydd ar draws y cwricwlwm

* Cefnogi profiadau dysgu dilys, ymarferol sy'n gwella ymgysylltiad ac yn ysbrydoli addysgu ar draws meysydd llythrennedd, iechyd a lles a Dysgu Creadigol ar draws y cwricwlwm

Rydym yn chwilio am unigolion sy'n hyderus yn gweithio ar y cyd, yn deall gwerth creadigrwydd mewn addysg, ac sy'n awyddus i gynnig syniadau newydd mewn amgylchedd ddysgu.

Beth yw Arbrofi?

Mae Arbrofi wedi'i gynllunio i gynnig llwyfan gweithredol i athrawon gydweithio'n agos trwy ddull ymholiad, gyda chefnogaeth Partneriaid Dysgu Creadigol, i ymgorffori dulliau Dysgu Creadigol yn strategol ac yn ymarferol yn yr ystafell ddosbarth. Nod y rhaglen yw cryfhau llythrennedd, iechyd a lles a Dysgu Creadigol ar draws y cwricwlwm. Bydd pob ymholiad yn ymateb i flaenoriaethau datblygu'r ysgol, gan sicrhau perthnasedd ac effaith. Drwy weithio ochr yn ochr ag athrawon a dysgwyr, bydd Partneriaid Dysgu Creadigol yn helpu i lunio profiadau addysgol fydd yn fwy deniadol ac ysbrydoledig.

Beth sy'n ddisgwyliedig gan Bartner Dysgu Creadigol?

Mae gofynion penodol y rôl yn cynnwys:

* Artist neu rhywun sydd â phrofiad helaeth o ymarfer creadigol sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

* Ar gael i fynychu sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb (â thâl) dros 2 ddiwrnod gyda Chyngor Celfyddydau Cymru *: Gogledd Cymru: 10 a 11 Tachwedd Canolbarth/Gorllewin Cymru: 17 a 18 Tachwedd De Cymru: 24 a 25 Tachwedd

* Arwain y broses o gyd-gynllunio ymholiad Dysgu Creadigol gydag athro dethol, ar gyfer carfan o ddysgwyr, sy'n gysylltiedig â'u hanghenion datblygu ysgol (gan gynnwys naill ai llythrennedd, lles, neu Ddysgu Creadigol ar draws y cwricwlwm).

* Cyd-gyflwyno gweithgareddau Dysgu Creadigol wyneb yn wyneb ar y cyd ag athro/athrawes y dosbarth ac ymarferwyr creadigol.

* Cyfrifoldeb cydweithredol dros reoli cyllideb yr ymholiad ac ymddwyn fel y prif gyswllt rhwng tîm Dysgu Creadigol Cymru a'r Ysgol.

* Dealltwriaeth o bwysigrwydd creadigrwydd, yn enwedig o fewn addysg

* Profiad blaenorol o reoli prosiectau a sgiliau trefnu cryf

* Profiad blaenorol o weithio mewn ysgolion ac ymrwymiad i weledigaeth ac addysgeg Dysgu Creadigol, Dysgu Creadigol Cymru.

Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus sicrhau gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a fydd yn cael ei brosesu gan Gyngor Celfyddydau Cymru os oes angen.

Bydd Partneriaid Dysgu Creadigol yn derbyn cytundeb am 10 diwrnod gwaith fesul ysgol, gyda’r disgwyliad fod o leiaf pum diwrnod yn mynd i gyflwyno sesiynau’r ymholiad wyneb yn wyneb yn yr ysgol. Rydym yn cynnig ffi ddyddiol gystadleuol o £300. **

Am fanylion llawn ynghylch cymhwysedd a gofynion y swydd, cyfeiriwch at y ddogfen ganllaw ymgeisio isod.

*Peidiwch â gwneud cais os nad ydych ar gael i fynychu un set o ddyddiadau hyfforddi. ** Nid yw cael eich derbyn i'r hyfforddiant yn gwarantu y byddwch yn cael eich paru ag ysgol ac yn cael cynnig gwaith. Dyddiadau allweddol

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 12yh, dydd Gwener 26 Medi 2025

Sesiynau Hyfforddi Gogledd Cymru: 10 & 11 Tachwedd Canolbarth/Gorllewin Cymru: 17 & 18 Tachwedd De Cymru: 24 & 25 Tachwedd

Cyfnod Cynllunio Ionawr i Fawrth 2026

Cyfnod Gweithredu Chwefror i Fehefin 2026

Diddordeb mewn gwneud cais? Cwblhewch a chyflwynwch eich cais drwy gyflwyno’r ffurflen hon. Noder ein bod yn disgwyl i'r cyfle hwn fod yn gystadleuol iawn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu'r ddogfen ganllaw ymgeisio a’r fanyleb person yn ofalus (dolen i’w gweld isod) i ddeall gofynion a disgwyliadau’r swydd yn llawn. Gofynnwn hefyd i chi gyflwyno ffurflen cyfle cyfartal sydd i'w chael yma. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau a gynhyrchir gan AI.

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 12yh, dydd Gwener 26 Medi 2025

Eisiau gwybod mwy? Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch ag un o aelodau tîm Dysgu Creadigol Cymru isod:

Huw Evans huw.evans@celf.cymru
Daniel Trivedy daniel.trivedy@celf.cymru 

Canllawiau Ymgeisio