Gyda thristwch y clywodd Cyngor Celfyddydau Cymru am farwolaeth y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas.

Dywedodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru,

"Roedd Dafydd Elis-Thomas yn gawr ym maes diwylliant Cymru, ac ar yr adeg drist hon cofiwn y cyfan a roddodd i'r celfyddydau ac yn wir, i'r genedl. Roedd yn ffigwr cadarn oedd yn arwain, yn ysbrydoli ac yn gwneud pethau'n bosib hyd yn oed ar adegau lle roeddem yn amau ein hunain. Roedd, yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn feiddgar gyda gweledigaeth gadarn ac yn wir drwy gydol ei yrfa wleidyddol, roedd yn ysbrydoliaeth gyson, ei angerdd yn ein hannog i fentro er lles y Celfyddydau, a hawlio llais ein diwylliant Cymreig yn y Byd."

Roedd y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru tan 1994 pan unwyd y Cymdeithasau Celfyddydau Rhanbarthol a Chyngor Celfyddydau Cymru a ffurfiwyd Cyngor Celfyddydau Cymru.