Bydd presenoldeb Cyngor Celfyddydau Cymru yn Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni tipyn yn fwy creadigol nac yn y gorffennol. Ymhlith y pethau a fydd yn cael eu cynnig bydd gweithdai cartŵn gyda Huw Aaron, ar fur Y Lle Celf - felly cyfle i greu celf yn ogystal â’i werthfawrogi.

Yn ogystal bydd cyfres o ddigwyddiadau pob prynhawn yn cynnwys sgwrs ar fynd â’r celfyddydau i ardaloedd mwy difreintiedig (Gwennan Mair Theatr Clwyd a Siân Fitzgerald Sir Ddinbych - Mawrth, 3-4pm), cyflwyniad gan ddisgyblion Ysgol Craig-y-Don Llandudno ar yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud gyda Gai Toms a Siwan Llynor fel rhan o raglen arloesol ‘dysgu creadigol trwy’r celfyddydau’ Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru (dydd Mercher), a pherfformiad darn byr o ‘Bachu’ gan Theatr Genedlaethol Cymru ac yna trafodaeth ar ddyfodol y theatr Gymraeg (Iau). Brynhawn Gwener, bydd Y Lle Celf yn darparu llety ar gyfer lansiad ‘Siwrne Diwylliant’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol (2.30pm).

Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn cynnal trafodaeth ar stondin Llywodraeth Cymru ynghylch pontio Cymru ac Iwerddon drwy iaith a diwylliant (Llun, 2.30pm). Cadeirir y drafodaeth gan Eluned Hâf Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ac aelodau eraill y panel fydd Eluned Morgan AC, y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg, Bethan Kilfoil, Golygydd Rhaglen gydag RTE, a Gethin Scourfield, cynhyrchydd teledu ffilm a cherddoriaeth.

Gan siarad heddiw, dywedodd Siân Tomos, Cyfarwyddwr (Datblygu’r Celfyddydau) Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Bydd digwyddiadau cyffrous bob prynhawn yn Y Lle Celf, ond rydym hefyd yn cynnig dwy elfen arall yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Bob bore rhwng 10.30am a 12 canol dydd, bydd swyddogion grantiau’r Cyngor ar gael i ddarparu cyngor ar ba grantiau y gellir gwneud cais amdanynt.

“Yn ogystal, o ddydd Llun i ddydd Gwener (11am-12 canol dydd), byddaf fi, ac un arall o’m cyd-gyfarwyddwr, Kath Davies, Cyfarwyddwr (Ariannu Gwasanaethau’r Celfyddydau) ar gael i glywed a thrafod syniadau ynghylch sut y medrwn ni ddatblygu Cyngor y Celfyddydau at y dyfodol.

“Yn arbennig hoffem wahodd pobl ifanc i ddod draw am sgwrs ynghylch gyrfa bosib yn y celfyddydau. Mae’n bwysig tu hwnt bod y sector gelfyddydol yn meithrin a datblygu doniau’r to ifanc, felly gobeithio y bydd Y Lle Celf yn llawn pobl ifanc bob bore wedi taro i mewn am sgwrs!”

 DIWEDD                                   dydd Gwener 2 Awst 2019

Mae'r amserlen yn llawn i'w gweld yma