Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am bobl angerddol i gefnogi celfyddydau Cymru ac arwain gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru drwy ymuno â’i Gyngor o Ymddiriedolwyr.

Mae'r Llywodraeth a’r Cyngor yn credu y dylai pawb gael y cyfle i brofi'r celfyddydau ac y dylai cyrff cyhoeddus gynrychioli gwahanol gymunedau fel y gallant ddeall pobl Cymru a gwneud penderfyniadau gwell.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas MS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Rydyn ni eisiau syniadau pobl nad ydyn nhw'n cael eu clywed yn ddigon aml a rhoi llais iddyn nhw. Mae bod yn aelod o Gyngor o Ymddiriedolwyr Cyngor y Celfyddydau yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd rydyn ni'n cynrychioli gwahanol grwpiau cymunedol yn lleol a chenedlaethol. ”

Dywedodd Phil George, Cadeirydd y Cyngor:

"Rhaid inni gael lleisiau amrywiol ac angerddol dros gynhwysiant. Apeliwn am geisiadau gan y cymunedau a'r grwpiau nad yw arian cyhoeddus i’r celfyddydau wedi eu gwasanaethu'n ddigonol yn y gorffennol. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau strwythurol sydd wedi eithrio pobl oherwydd eu hethnigrwydd, eu hiaith neu eu tlodi economaidd sy’n byw mewn cymunedau lle nad oes mynediad digon da at y celfyddydau. Mae’n adeg dyngedfennol a rhaid inni gael pobl i'n helpu i chwalu'r rhwystrau."

Rydym ni’n croesawu ceisiadau'n arbennig gan bobl o grwpiau sydd â chynrychiolaeth annigonol sy’n gynnwys, er enghraifft:

 

  • Pobl o wahanol gefndiroedd ethnig gan gynnwys pobl dduon a phobl liw
  • Siaradwyr Cymraeg
  • Menywod
  • Pobl dan 30 oed
  • Pobl anabl
  • Lesbiaid, hoywon, deurywolion
  • Pobl drawsryweddol

Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Bydd eich tymor fel ymddiriedolwr yn parhau am dair blynedd. Bydd gofyn ichi dreulio diwrnod a hanner y mis ar waith y Cyngor - fel mynd i gyfarfodydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae bod yn ymddiriedolwr yn ddi-dâl ond bydd arian i dalu am gost teithio, prydau bwyd ac aros dros nos.

Y dyddiad cau ymgeisio yw 23 Tachwedd 2020.