Yn rhan o’r bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a The British Council, lansiasom gronfa ar y cyd i ariannu prosiectau celfyddydol cydweithiol newydd rhwng India a Chymru.
Gyda phleser mawr, hoffwn gyhoeddi’r prosiectau a ariannwn – mae’n bortffolio cyfoethog ac amrywiol o brosiectau uchel eu proffil a gyfuna artistiaid a sefydliadau celfyddydol arweiniol o India a Chymru. Cynnwys y rhaglen sawl celfyddyd - theatr, dawns, y celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, cerddoriaeth, y celfyddydau cymwys a chrefft.
Cynnwys llawer o’r prosiectau berfformiadau cyhoeddus uchel eu proffil a chyfleoedd arddangos byw a digidol. Gweithia eraill yn uniongyrchol gyda chymunedau drwy weithdai a theithio gwaith. Cynhelir y prosiectau ar hyd 2017 a 2018. Dyma restr o'r holl brosiectau:
Gwyl Ddawns Caerdydd (CYM) & Basement 21 (IN)
Interruption
Mae Interruption yn brosiect cydweithredol gyda Gŵyl Ddawns Caerdydd a Basement 21 sy'n dod ag artistiaid dawns unigol o India a Chymru ynghyd mewn cyfres o breswyliadau cyhoeddus yng Nghaerdydd a pherfformiadau yng Ngŵyl Ddawns Caerdydd 2017.
https://basement21.wordpress.com
Chapter/Coreo Cymru (CYM) & The Danceworx (IN)
Liminality
Bydd Liminality yn dod â Coreo Cymru a 4pi Productions o Gymru a Danceworx India at ei gilydd i greu ffilm ddawns 360° Fulldome newydd. Bydd yn cynnwys cast o dros 40 o ddawnswyr o India a Chymru a bydd yn cael ei ffilmio mewn lleoliadau arfordirol a dinesig yn y ddwy wlad.
Ffotogallery (CYM) & Nazar Foundation (IN)
Dreamtigers
Mae Dreamtigers yn brosiect blwyddyn o hyd lle y bydd Ffotogallery a Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffotograffiaeth Delhi'n cydweithio ar draws cyfres o breswyliadau a churadiadau ffotograffig. Bydd gwaith newydd yn cael ei gyflwyno ar blatfform ar-lein a bydd yn ymddangos yng ngwyliau ffotograffiaeth pob sefydliad partner yn 2017: Diffusion a Gŵyl Ffotograffiaeth Delhi.
Jessica Mathews & Melissa Hinkin (CYM) & Cona (IN)
The Rejoinders
Mae’r Rejoinders yn rhwydwaith ymchwil rhwng Cymru ac India sy’n archwilio’r broses gydweithiol, y celfyddydau gweledol a’r gofodau rhyngddynt. Bydd hyn yn dod ag artistiaid at ei gilydd o nifer o feysydd ymarfer celfyddydol i ddatblygu cyfres o ddigwyddiadau a phreswylfeydd a chreu llwyfan digidol am gyfnewid a sgwrsio dros bellter mawr. Mewn cydweithiad â Shreyas Karle a Hemali Bhuta, Dr Jonathan Prior, Amanda Colbourne, Per Törnberg a Paul Goodfield, Sefydliad CONA, g39 a Phrifysgol Caerwrangon.
Khamira (CYM/IN)
Khamira tour
Yn gydweithrediad parhaus rhwng y band o Gymru Burum a thri cherddor arweiniol o India, mae Khamira yn cymysgu jazz, alawon gwerin Cymreig a cherddoriaeth o draddodiad clasurol India. Drwy weithio gyda'r asiantaeth Indiaidd, Gatecrash, bydd y band yn gwneud taith helaeth yn India a Chymru.
Literature Across Frontiers (CYM) & various (IN)
Poetry Connections
Gan roi sylw at y thema eang o annibyniaeth, bydd y prosiect o Gymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, yn gweithio gydag amrywiaeth o wyliau, ysgrifenwyr, cyhoeddwyr a chyfieithwyr ar draws India a Chymru i ddatblygu cyfres o breswyliadau cyfnewid ar y cyd, perfformiadau byw a gweithdai gyda phobl ifanc.
Living Pictures (CYM) & QTP Entertainment (IN)
Diary of a Madman
Mewn partneriaeth â QTP Entertainment, bydd Living Pictures yn mynd â'u cynhyrchiad o ‘Diary of a Madman’ Gogol ar daith ar draws India a byddant yn datblygu sioe newydd yn seiliedig ar Timon of Athens Shakespeare yn dilyn gweithdai gyda pherfformwyr o India a Chymru.
National Theatre Wales (CYM) & Junoon Theatre (IN)
Sisters
Bydd Sisters yn waith newydd, cyfoes, wedi'i greu ar y cyd gan National Theatre Wales a Theatr Junoon India, wedi'i ddychmygu gan grŵp o artistiaid o Gymru ac India y mae eu gwreiddiau a'u hanesion diwylliannol wedi'u cysylltu'n gynhenid.
Parthian Books (CYM) and Bee Books (IN)
The Valley, The City, The Village
Bydd cyhoeddwyr Parthian Books a Bee Books yn datblygu The Valley, The City, The Village, prosiect cydweithredol rhwng ysgrifenwyr o Gymru a Bengal. Drwy ymgysylltu â chwe ysgrifennydd o'r ddwy wlad mewn cyfres o breswyliadau a pherfformiadau byw, bydd y prosiect yn arwain at gyhoeddiad teirieithog yn Bengaleg, Saesneg a Chymraeg.
Theatr Iolo (CYM) & ThinkArts (IN)
Theatre for Early Years and Babies
Bydd ThinkArts o Kolkata a Theatr Iolo yng Nghymru'n cydweithio i gyflwyno cynhyrchiad Sarah Argent i fabanod, Out of the Blue, ar draws India. Byddant hefyd yn datblygu arddangosfa weledol ryngweithiol newydd ac yn dod ag artistiaid o'r ddwy wlad at ei gilydd i rannu sgiliau a chreu gwaith newydd sydd wedi'i anelu at gynulleidfaoedd y blynyddoedd cynnar.
Winding Snake Productions (CYM) & various (IN)
Rangoli: the art that binds
Bydd Winding Snake Productions yn cydweithio gydag artistiaid yn India a Chymru i archwilio pwysigrwydd celf o fewn ein hamgylchedd cymdeithasol newidiol. Bydd y gelfyddyd Rangoli'n darparu'r ffocws am brosiect sy’n cysylltu grwpiau cymunedol merched a grwpiau ieuenctid yn y ddwy wlad a bydd yn dod i ben gyda ffilm animeiddiedig.
Cadwch mewn cysylltiad fel y datblyga’r rhaglen India-Cymru:
http://uk-india.britishcouncil.in
Dilynwch y cyfan drwy #IndiaWales.