Gwerthusiad o'r Rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau: 2015 i 2020
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau’r gwerthusiad cyffredinol terfynol o’r Rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau a redodd o 2015 i 2020.
Mae’n ymchwilio i ystod o effeithiau cadarnhaol y mae’r rhaglen wedi’u cael ar bob grŵp, gan gynnwys athrawon, dysgwyr ac artistiaid.
Mae’r adroddiad hefyd yn asesu sut roedd gwahanol elfennau’r rhaglen yn gweithio’n ymarferol, ac mae’n ystyried sut i ddal gafael ar ei manteision i’r dyfodol.