Adnoddau Hyfforddi: Cardiau Post a’r 5 Piler Dysgu Creadigol

Mae’r gweithgaredd cyntaf, sef cardiau post, yn eich annog i drafod creadigrwydd trwy gyfres o dasgau byrion.

Mae’r ail weithgaredd, 5 piler dysgu, yn eich annog chi i feddwl pa amodau/nodweddion sy’n creu dysgu ‘da’. Cardiau Post

 

Cardiau Post

Defnyddiol i: Feithrin cydlyniant mewn grŵp, cyflwyno dull o weithio, cyflwyno thema neu set o syniadau, archwilio gofod ffisegol, cyflwyno myfyrio gweithredol. Nod yr ymarfer yma yw pwysleisio pwysigrwydd gwaith tîm, cyfranogiad ymarferol a myfyrio. Trwy fyfyrio ar y cyd, mae ieithwedd gyffredin yn datblygu.

Dylai’r cyfranogwyr weithio mewn grwpiau o hyd at 5.

  1. Cliciwch ar y linc SWAY https://sway.office.com/lcETtJgDks2I8m2e?ref=Link
  2. Edrychwch trwy’r cardiau post SWAY, dewiswch ddelwedd sydd o ddiddordeb i chi, a chwblhewch y gweithgaredd cysylltiedig.
  3. Ar ôl cwblhau’r gweithgaredd, symudwch ymlaen at yr un nesaf.
  4. Ymhen 25-30 munud, myfyriwch ar y profiad gan ddefnyddio’r sbardunau isod.

Dull amgen o fynd ati: Argraffwch y cardiau post a’u cuddio o gwmpas yr ystafell er mwyn i bob grŵp fynd i’w ffeindio nhw!

Myfyrio

Gofynnwch i rai o’r grwpiau ddweud yn gryno beth oedd eu hoff dasg.

  • Gofynnwch i’r grwpiau ddweud yn gryno pa dasg oedd fwyaf ymestynnol iddynt (os oedd un), a pham?
  • Beth oeddem ni’n ceisio dod o hyd iddo trwy’r amlenni? Mae’r ymarferion byrion yn yr amlenni’n cynnwys tasgau sy’n helpu i sbarduno rhai o’r cysyniadau/dulliau sy’n greiddiol i’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol
  • Sut gellid addasu dull fel hwn ar gyfer y disgyblion?

 

5 Piler Dysgu Creadigol

Defnyddiol ar gyfer: Gosod y cyfranogwyr yn sefyllfa’r dysgwr, a myfyrio ar nodweddion profiadau dysgu da; creu fframwaith ar gyfer hunanasesu sut maen nhw’n addysgu; cael y cyfranogwyr i ddechrau meddwl am ddysgu a sut brofiad o ddysgu maen nhw wedi ei gael.
 

Beth sy’n digwydd?

Fel grŵp cyfan, gofynnwch i’r cyfranogwyr fyfyrio ar brofiad dysgu cadarnhaol, dwys ac effeithiol iawn y maent wedi ei gael yn eu bywydau: gallai fod o’r ysgol, dysgu gan berthynas, cydweithiwr, dysgu mewn swydd newydd, yn y coleg ac ati.

  • Pa nodweddion o’r profiad dysgu wnaeth hi mor bwerus?
  • Pa mor bwysig oedd amgylchedd, y cyd-destun cymdeithasol neu strwythur cynlluniedig y profiad dysgu?
  • Os yw’n berthnasol, beth oedd rôl yr ‘athro/athrawes’ yn y profiad? Beth wnaethon nhw i ategu eu dysgu?
  • Pa gryfderau, sgiliau a gwybodaeth gyflwynodd yr ‘athro/athrawes’? Pa nodweddion personol oedd gan yr athro/athrawes?

Mewn grwpiau bychain, rhannwch y profiadau dysgu. Pan fydd pawb wedi rhannu eu profiadau, clustnodwch y 5 nodwedd cyffredin sy’n sail i’r profiadau hyn.

Os ydych chi’n gweithio gyda nifer o grwpiau, gallech greu rhywbeth i gynrychioli eich 5 piler (dawns, rap, cerdd, drama, cerflun) a’u rhannu nhw wedyn fel grŵp mawr.
 

Myfyrio 

Sut deimlad oedd myfyrio ar beth sy’n creu dysgu da?

Pa mor bwysig yw myfyrio ar beth sy’n creu dysgu da?

Sut mae eu 5 piler yn cyd-fynd a’r dosbarth weithredol lefel uchel?

Profiadau dysgu negyddol - a all y rhain fod yn effeithiol?