Roedd Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltu Cyngor Celfyddydau Cymru/Amgueddfa Cymru yn cynnwys gweithredu ar sefydlu ac ymgorffori safonau arferion gorau ar gyfer profiad defnyddwyr, cynulleidfa ac ymwelwyr mewn lleoliadau celfyddydol/diwylliannol ac amgueddfeydd cenedlaethol.
Gweithredwyd ar hyn drwy gyfres pellach o sgyrsiau manwl gyda phobl anabl ledled Cymru, gan rannu eu profiadau o gymryd rhan yn y sector celfyddydau a threftadaeth. Rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa nawr i gyhoeddi penllanw y gwaith hwnnw ar ffurf adroddiad sy'n edrych yn fanwl ar brofiad ymwelwyr a hygyrchedd i bobl anabl yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn nodi beth yw'r profiad gorau i ymwelwyr anabl, a beth ddylai ymwelwyr anabl ei ddisgwyl fel lefel isafswm o ran profiad.
Bydd y trydydd cam a'r cam olaf o'r gwaith hwn ar ffurf cyfres o drafodaethau grŵp ffocws gyda lleoliadau ac orielau ledled Cymru.
Mae'r adroddiad llawn i'w weld isod, ac yn fuan byddwn yn ychwanegu cyfres o fideos hygyrch sy'n dal profiad yr ymwelydd yn uniongyrchol o ystod o brofiadau go iawn gan bobl anabl.
Rydym yn ddiolchgar i Richie Turner Associates a ymgymerodd â'r gwaith hwn ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru.