Cefndir

Ysgol cyfrwng Saesneg yn ardal awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Pembre. Mae tua 235 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol.

Lleolir yr ysgol mewn cymuned lle mae cyfoeth o chwedlau am forladron a llongddrylliadau. Mae bathodyn yr ysgol yn dangos dwy fwyell yn croesi sy’n cysylltu â stori leol Gwŷr y Bwelli Bach. Doedd y disgyblion ddim yn ymwybodol iawn o’u treftadaeth, a chyfyngedig oedd eu gwybodaeth am sut roedd eu cymuned wedi datblygu.

Dewisodd yr ysgol 30 o ddisgyblion Blwyddyn 4 i gymryd rhan yn ei phrosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol cyntaf. Cwestiwn ymholi’r prosiect oedd: a all defnyddio dull creadigol o weithio o ran llythrennedd, a throchi disgyblion yn hanes lleol Cymru helpu i feithrin gwell ymdeimlad o gymuned a chael effaith ar lesiant a sgiliau llafaredd disgyblion e-FSM Blwyddyn 4?

Roedd y prosiect yn cysylltu â nifer o flaenoriaethau datblygu’r ysgol, gan gynnwys gwella cyflawniad, llesiant, sgiliau meddwl creadigol a lefelau ymgysylltiad y disgyblion, ac yn arbennig y rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Roedd 13 o’r disgyblion a ddewiswyd ar gyfer y prosiect yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac roedd gan 6 o’r rhain lefelau presenoldeb o 95%, oedd yn is na’r trothwy.

Y Gweithgaredd

Bu’r disgyblion yn gweithio gyda’r Ymarferydd Creadigol, Megan Bagnell Clark, sy’n artist gweledol amlddisgyblaeth. Roedd yr Ymarferydd Creadigol yn awyddus iawn i sicrhau taw’r disgyblion oedd yn arwain y prosiect, a dechreuodd trwy ofyn iddynt beth roedden nhw am ei rannu ag eraill am eu cymuned leol. Datblygodd proses organig o ymchwilio a darganfod trwy hyn lle’r aeth y disgyblion ati’n ymarferol i ddysgu am eu treftadaeth leol a’u cymuned.

Ymhlith gweithgareddau’r prosiect roedd; dysgu stori Gwŷr y Bwelli Bach, ymweld â’r traeth lleol i weld llongddrylliad go iawn, chwilota am ‘drysor’ ar y traeth, ymchwilio i enwau llefydd a strydoedd, creu llwybr dirgel ar gyfer ‘gwŷr y bwelli’ a chreu ymatebion artistig.

Ar ôl gweld y llongddrylliad a chyffwrdd ag ef, dywedodd un disgybl

‘Rydw i newydd gyffwrdd â hanes’

Ar ôl myfyrio ar y gweithgareddau, penderfynodd y disgyblion eu bod am rannu eu dysg a’u siwrnai â’r gymuned ehangach. Gweithiodd Megan gyda’r disgyblion i greu ymateb cyfoes amlweddog i hanes lleol yr ardal. Arweiniodd hyn at lunio taith sain a gwahodd rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned leol i gymryd rhan ynddi.

Dechreuodd y daith sain ym maes parcio tafarn y Ship Aground Inn. Y disgyblion oedd y gyfrifol am sicrhau fod gan bawb glustffonau. Yr Ymarferydd Creadigol arweiniodd y daith trwy’r pentref. Ar hyd y daith, roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn gwrando ar leisiau’r disgyblion yn rhannu hanes y pentref a’r gymuned â nhw. Roedd yna gyfnodau o gerdded a gwrando ar ganeuon môr hefyd. Ar hyd y ffordd roedd yna sawl man aros lle cymerodd y disgyblion ran mewn ymyraethau creadigol gan gynnwys; adrodd straeon am eu harwyr, rhannu trysorau personol, cymryd rhan mewn seremoni coroni a rhyddhau balŵns. Daeth y daith i ben yn y ganolfan gymunedol leol lle’r oedd arddangosfa o’r gwaith y cynhyrchodd y disgyblion yn ystod y prosiect.

Effaith

Roedd effeithiau’r prosiect yn eang. Un dangosydd allweddol o lwyddiant oedd y ffigurau presenoldeb. Cofnodwyd lefel presenoldeb uchaf y flwyddyn yn ystod y cyfnod o dan sylw.

Cafodd llesiant ei dracio trwy gydol y prosiect. Rhoddwyd holiadur lles i’r disgyblion ar ddechrau ac ar ddiwedd y prosiect. O ganlyniad i’r prosiect, gwelwyd effaith nodedig ar les, yn arbennig i’r disgyblion â hawl i brydau ysgol am ddim.

progress infographic icon
Gwella presenoldeb

Yn ogystal â chael effaith ar y disgyblion, effeithiodd y prosiect ar yr athrawon hefyd, fel y mae’r dyfyniad canlynol yn ei ddangos.

Gweithiodd yr Ymarferydd Creadigol gyda ni mewn ffordd frwdfrydig a llawn cymhelliant i ddatblygu ein diddordeb a’n gwybodaeth bersonol am Gelf, a Diwylliant a Threftadaeth Cymru. Galluogodd y profiad yma ni i addysgu mewn ffordd ystyrlon a chreadigol a oedd yn gwella, yn cyfoethogi ac yn ymestyn dysg ein disgyblion, sy’n rhywbeth na fyddem wedi bod â’r sgiliau neu’r hyder i’w wneud fel arall. Roedd y meysydd celf, drama a gwneud ffilmiau’n llai datblygedig yn ein hysgol, ond yn ystod y prosiect fe ganolbwyntion ni ar ddysgu am ffyrdd creadigol o ddogfennu a gwerthuso’r prosiect gyda rhyw ddealltwriaeth o recordio fideos, gwneud ffilmiau, blogiau, a dathlu gorchestion y disgyblion trwy hynny. Bydd y sgiliau hyn yn dylanwadu ar ein harferion ac yn ein galluogi ni i gyflawni’r prosiect yma, neu un tebyg, er budd ein disgyblion eto yn y dyfodol.

Rhannodd yr athrawon a fu’n uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect eu gwybodaeth â staff eraill yn yr ysgol. Yn benodol, rhannwyd sut y defnyddiwyd llais y disgybl yn effeithiol i arwain a llywio’r sesiynau dysgu. Y gobaith yw y bydd y dull yma o weithio’n rhan o etifeddiaeth y prosiect o fewn yr ysgol.

Bydd y sgiliau hyn yn dylanwadu ar ein harferion, ac yn caniatáu i ni gyflawni’r un prosiect eto neu un tebyg er budd ein disgyblion yn y dyfodol. - Athro yn Ysgol Gynradd Pembre

Gwella llesiant dysgwyr