Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i hybu prosiectau artistig fel rhan o Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Cynhenid UNESCO yn ystod 2019. Yn sgil un o'r prosiectau a gafodd ei gyllido gennym, fe wnaeth Worldcub, a ddewiswyd i arddangos yng Ngŵyl BreakOut West, gael cyfle hefyd i berfformio a chwrdd ag un o gymunedau First Nation yn Yukon trwy bartneriaeth rhwng BreakOut West a FOCUS Wales.
Holwyd Dion Hamer o'r band i ddweud mwy wrthym am eu taith:
“Ym mis Hydref 2019, teithiom ni i Whitehorse yng Nghanada i gymryd rhan yng Ngŵyl a Chynhadledd BreakOut West, sef yr ŵyl arddangos ryngwladol gyntaf i ni berfformio ynddi. Cawsom ni wahoddiad gan FOCUS Wales i berfformio dwy sioe. Y sioe gyntaf oedd arddangosiad yn yr ŵyl ei hun o flaen cynulleidfa lawn dop a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r byd. Roedd yr ail berfformiad yn gyfle i gysylltu â Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Cynhenid UNESCO, a arweiniodd at FOCUS Wales a BreakOut West yn trefnu i ni gwrdd â cherddorion ac unigolion amlwg yng nghymuned First Nation Carcross/Tagish yn Yukon. Roedd hwn yn gyfle unigryw i ni gymryd rhan mewn sesiwn arbennig i ddathlu iaith a cherddoriaeth.
Dechreuodd y diwrnod yn gynnar ar fore'r daith i Yukon ac roedd cryn dipyn o eira, ond gan ein bod ni'n teithio mewn dau gar mawr, roedden ni'n dal i fod yn hyderus y bydden ni'n cyrraedd mewn pryd ar gyfer y dathlu. Wrth i ni deithio, aeth y tywydd yn waeth ac aeth un cerbyd yn sownd mewn eira dwfn. Yn waeth fyth, tra roedden ni'n sownd, gwelodd ein gitarydd Carwyn arth lwyd fawr wrth ymyl y ffordd ychydig o lathau y tu ôl i ni! O’r diwedd, ar frys, llwyddom ni i balu'r cerbyd o'r eira a pharhau i Carcross, gan gyrraedd yno'n ddiogel.
Cawsom ein croesawu gyda gweddi gan yr Hynafgwraig Geraldine James yn fuan ar ôl i ni gyrraedd y Ganolfan Ddysgu. Ar ôl hynny, cafwyd seremoni llychwino lle roedden ni'n puro ein hunain ym mwg glaswellt melys a saets llosg gyda chymorth gwyntyll enfawr yr Hynafgwraig wedi'i gwneud o adain cigfran. Gan sefyll mewn cylch, cafodd pawb wahoddiad i fod yn agored a chyflwyno eu hunain. Siaradodd yr Hynafgwraig am y drafferth, y frwydr i achub eu treftadaeth a'u hiaith rhag diflannu, ac ychwanegodd pobl eraill at y darlun anodd a thrist o'u gorffennol a'u dyfodol. Ein tro ni oedd hi nesaf, a siaradom ni am hanes y Gymraeg, y defnydd o'r ‘Welsh Not’ i stigmateiddio a chosbi'r plant a oedd yn defnyddio'r Gymraeg yn yr 18fed, y 19eg a'r 20fed ganrif. Rwy'n meddwl bod pawb wedi sylwi ar y tebygrwydd rhwng yr hyn a drafodwyd. Er i ni drafod pynciau mor drwm, gorffennom ni ar nodyn cadarnhaol fod pethau wedi newid yn sylweddol yng Nghymru, a oedd yn rhoi gobaith iddyn nhw.
Cawsom wahoddiad i berfformio ymhlith totemau ac arteffactau o wahanol lwythau. Chwaraeom ni ganeuon Cymraeg – nad oeddent yn rhai traddodiadol o bell ffordd – ond cawsant gymeradwyaeth wresog gan y dorf. Ar ein hôl ni ar y llwyfan roedd Gary Johnson, aelod o lwyth Dak`laweidí sydd ag arwydd morfil danheddog, mewn gwisg draddodiadol. Fe oedd yr unig aelod o'r llwyth a oedd yn gallu siarad yr iaith frodorol Tlingit. Rhoddodd wers i ni ar sut i ynganu geiriau a brawddegau ac yna aeth ati i berfformio ar ein cyfer.
Braint oedd cael rhannu'r llwyfan gyda Gary Johnson a rhannu straeon am ein hieithoedd. Mae'n bwysig rhoi goleuni ar y trafferthion mae llawer o ieithoedd brodorol wedi'u hwynebu. Ffaith drist yw y byddwch chi'n clywed straeon trist ac arbennig o anodd os byddwch yn ymchwilio'n fwy i hanes ieithoedd lleiafrifol. Mae pob aelod o Worldcub yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, felly roedd clywed sut mae erledigaeth yn dal i ddigwydd mewn rhai rhannau o'r byd yn drist ofnadwy, ond roedd hi'n braf gweld pa mor frwdfrydig maen nhw i barhau i frwydro dros eu treftadaeth a'u hiaith. Dysgom ni lawer ar y diwrnod ac mae gennym ni lond llu o straeon i'w hadrodd yn ôl gartref.
Roedden ni'n hynod o ffodus i gael ymweld â'r Ganolfan Ddysgu yn Carcross, gan ddysgu am hanes y bobl yn y gymuned ac ymuno â'u traddodiadau. Diolch yn fawr iawn i'n cyllidwyr ac i FOCUS Wales a BreakOut West am drefnu ein taith i gwrdd â chymuned First Nations (ac am sicrhau ein bod ni’n cyrraedd yno trwy'r eira trwm, heibio'r arth lwyd fawr, ac yn ôl adref yn fyw!).”