Trwy bartneriaeth tymor hir â Gatecrash Music India, datblygodd Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru daith o India gan fand jazz a gwerin o Gymru, Burum, yn 2014. Cynlluniwyd y daith i archwilio'r potensial ar gyfer cyfnewid creadigol hirdymor gyda cherddorion yn India. Rhoddodd y cysylltiadau â thri cherddor clodwiw o India ddechreuad i Khamira, cydweithrediad sy'n dod â cherddoriaeth clasurol Indiaidd, cerddoriaeth gwerin Cymreig â jazz chyfoes ynghyd. Recordiwyd albwm yng Ngorllewin Cymru yn ystod haf 2016 gyda thaith yn yr hydref yn India, gyda pherfformiadau yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Goa a Gŵyl Jazz Ryngwladol Kolkata a dyddiadau ledled y wlad. Mae taith o Brydain ac India bellach wedi'i chefnogi trwy Gronfa India Cymru.
"Mae chwalu ymylon genres a diwylliannau yn teimlo'n hollol organig yma, gan alw ar arbrofionarloesol John McLaughlin a Miles Davis ... pum deg pum munud o ysblander offerynnol" - AP Reviews