Canllawiau Cyfrif Banc
1. Proses Cyfrif Banc
- 1.1 Pam a phryd mae angen tystiolaeth fanc arnom
-
Mae gwirio tystiolaeth fanc yn rhan o'n gwiriadau twyll a llywodraethu i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu'n briodol. Os nad yw'r wybodaeth hon yn llwyddo o ran ein gofynion, ni fyddwn yn gallu rhyddhau unrhyw daliadau.
Byddwn yn gofyn am y wybodaeth hon unwaith y byddwn wedi anfon cynnig grant atoch er y gallwch greu cofnod banc a chyflwyno tystiolaeth ar unrhyw adeg.
Mae'n rhaid i chi neu'ch sefydliad fod â chyfrif banc cymwys cyn i chi gyflwyno cais am grant. Ond nid oes angen i chi ddarparu'r manylion cyn gwneud cais.
- 1.2 Pryd y byddwn yn gwirio tystiolaeth fanc
-
Os rhoddwn arian i chi, unwaith y byddwch yn derbyn y grant, byddwn yn gwirio bod eich cofnod banc yn bodloni ein meini prawf. Gall unrhyw broblemau sy'n codi o fethu â dilysu eich cyfrif achosi oedi sylweddol i'ch taliadau a gall hyd yn oed olygu ein bod yn tynnu ein cynnig grant yn ôl. Er mwyn osgoi unrhyw broblemau, sicrhewch fod gennych dystiolaeth briodol.
- 1.3 Ar ôl i ni wirio tystiolaeth fanc
-
Unwaith y bydd eich cyfrif wedi'i ddilysu bydd yn ymddangos fel un wedi'i ddilysu yn y porth (gweler rhestr o gofnodion banc yn Gweinyddu – Manylion Banc). Ar ôl ei ddilysu, bydd eich cofnod yn parhau i fod yn awdurdodedig am ddwy flynedd, bydd dyddiad pan ddaw’r dilysiad i ben yn cael ei ddangos wrth ei ochr.
Os oes unrhyw broblemau wrth ddilysu manylion eich cyfrif, byddwn yn cysylltu â chi. Efallai y byddwn yn gofyn i chi gyfeirio'n ôl at y daflen hon a darparu rhywfaint o dystiolaeth ychwanegol.
2. Gofynion tystiolaeth cyfrif banc
2.1 Sefydliadau
- 2.1.1 Gofynion tystiolaeth cyfrif banc
-
Cyrff Statudol
Ni fydd angen i gyrff statudol (fel awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, cynghorau tref, byrddau iechyd, neu brifysgolion) ddarparu tystiolaeth ar gyfer eu cyfrifon banc. Yn yr achosion hyn, rhaid i fanylion y cyfrif fod yn enw'r sefydliad neu yn enw’r awdurdod lleol.
Ond os byddwn yn rhoi unrhyw arian, bydd angen i ni wybod pa gyfrif banc yr hoffech i ni dalu iddo, felly rhaid eich bod wedi creu cofnod banc yn ein system. Ond ni fydd angen i ni weld unrhyw dystiolaeth fanc.
Cyrff Anstatudol
Er mwyn i ni allu dilysu eich cofnod banc, bydd angen eich tystiolaeth arnom i ddangos:
- bod y cyfrif yn enw eich sefydliad neu yn ei enw cyfreithiol
- bod o leiaf dau berson yn cael mynediad i'r cyfrif
- rhif y cyfrif
- y cod didoli
Bydd angen i'r dystiolaeth hon fod yn:
- llai na 6 mis oed o'r dyddiad y byddwn yn adolygu'r cofnod banc
- cyfateb â manylion y cyfrif rydych chi wedi'i nodi yn ein system
- tystiolaeth fanc swyddogol (sef wedi'i chreu a'i llenwi gan eich banc)
Mae'n rhaid i chi gael cyfrif banc priodol gyda'r dystiolaeth ofynnol cyn i chi gyflwyno eich cais.
- 2.1.2 Mathau o dystiolaeth fanc
-
Bydd angen i chi uwchlwytho'r dystiolaeth wrth nodi manylion y cyfrif banc, felly gwnewch yn siŵr bod eich dogfennaeth yn barod. Mae'n bwysig bod y dystiolaeth fanc ac uwchlwythwch yn cyfateb â’r manylion banc yr ydych wedi'u darparu.
Rhaid cysylltu'r dystiolaeth yn glir â manylion y cyfrif. Efallai y bydd angen i chi ddarparu nifer o ddogfennau, er enghraifft:
- Llythyr neu e-bost dyddiedig sy'n dangos yn glir ei fod wedi'i anfon gan eich banc ac sy'n cynnwys manylion sy’n cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen.
- Sgrinluniau o’r llofnodwyr sydd wrthi’n mewngofnodi i fancio ar-lein yn arddangos eu henw ynghyd â gwybodaeth cyfrif banc y sefydliad ac sydd wedi'i dyddio
- Ffotograffau o bob cerdyn banc ar gyfer y cyfrif sy'n dangos enw pob llofnodwr, enw'r cyfrif, rhif y cyfrif a’r cod didoli (nid yw rhai cardiau banc yn dangos yr holl wybodaeth hon - os felly, bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol sy'n cysylltu manylion eich sefydliad a manylion y cyfrif, er enghraifft datganiad banc)
Gallwn dderbyn atodiadau yn y fformatau canlynol hyd at 10mb yr un:
- PDF, MS Word, MS Excel, MS PowerPoint a jpegDyma rai enghreifftiau o fformatau ffeil na allwn eu derbyn:
-HEIC, Pages, CSV, RAW a DAT
Pwysig: ni allwn dderbyn cyfrifon cymdeithas adeiladu sy'n gweithio gyda llyfr pas yn unig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ofynion tystiolaeth fanc, anfonwch e-bost atom: buddsoddiacariannu@celf.cymru
2.2 Unigolion
- 2.2.1 Gofynion tystiolaeth cyfrif banc
-
Er mwyn i ni allu dilysu eich cofnod banc, rhaid i ni gael tystiolaeth oddi wrthych i ddangos:
- bod eich cyfrif yn eich enw cyfreithiol
- rhif y cyfrif
- y cod didoli
- cyfeiriad deiliad y cyfrif banc (rhaid i hyn gyfateb â'r cyfeiriad rydych wedi’i nodi yn ein system grantiau ar-lein a rhaid iddo fod yng Nghymru hefyd)
Bydd angen i'r dystiolaeth hon fod yn:
- llai na 6 mis oed o'r dyddiad y byddwn yn adolygu'r cofnod banc
- cyfateb â manylion y cyfrif rydych chi wedi'i nodi yn ein system
- tystiolaeth fanc swyddogol (sef wedi’i chreu a’i llenwi gan eich banc)
Mae'n rhaid i chi gael cyfrif banc priodol gyda'r dystiolaeth ofynnol cyn i chi gyflwyno eich cais.
- 2.2.2 Mathau o dystiolaeth fanc
-
Bydd angen i chi uwchlwytho'r dystiolaeth wrth nodi manylion y cyfrif banc, felly gwnewch yn siŵr bod y ddogfennaeth yn barod. Mae'n bwysig bod y dystiolaeth fanc a uwchlwythwch yn cyfateb â'r manylion banc yr ydych wedi'u nodi.
Rhaid cysylltu'r dystiolaeth yn glir â manylion y cyfrif. Efallai y bydd angen i chi ddarparu nifer o ddogfennau, er enghraifft:
- tudalen cyntaf datganiad banc (bydd hyn fel arfer yn darparu'r manylion sy'n ofynnol a gellir ei islwytho fel arfer wrth fancio ar-lein)
- llythyr neu e-bost dyddiedig sy'n dangos yn glir ei fod wedi'i anfon gan eich banc ac sy'n cynnwys manylion sy’n cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen
- Sgrinluniau ohonoch a chwithau wedi mewngofnodi i'ch bancio ar-lein sy’n dangos eich enw, eich cyfeiriad a gwybodaeth eich cyfrif banc sydd hefyd wedi'i dyddio
- Ffotograffau o'r cerdyn banc ar gyfer y cyfrif sy'n dangos enw'r cyfrif, ei rif a’i god didoli. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer y cyfeiriad sy'n gysylltiedig â'r dystiolaeth. (Os nad yw'ch enw'n cael ei ddangos ar y cerdyn, bydd angen darparu gwybodaeth ychwanegol, gan eich cysylltu chi â manylion y cyfrif).
Gallwn dderbyn atodiadau yn y fformatau canlynol hyd at 10mb yr un:
- PDF, MS Word, MS Excel, MS PowerPoint a jpeg
Dyma rai enghreifftiau o fformatau ffeil na allwn eu derbyn:
- HEIC, Pages, CSV, RAW a DAT
Noder, ni allwn:
- derbyn cyfrifon ar y cyd
- derbyn cyfrifon cymdeithas adeiladu sy'n gweithio gyda llyfr pas yn unig
- talu i gyfrifon ISA
- derbyn llyfrau siec fel tystiolaeth fanc
Cyfrifon Busnes:
- Ni allwn dderbyn cyfrifon busnes heblaw pan fo’ch enw cyfreithiol wedi'i gynnwys yn enw'r cyfrif, er enghraifft 'Dawns Dwynwen Jones'
- Ni allwn dderbyn cyfrifon banc sydd ar gyfer cwmnïau cyfyngedig
- Gallwn ddim ond dderbyn cyfrifon busnes pan fo e-bost gan yr ymgeisydd yn cadarnhau mai ef yw'r unig lofnodwr
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ofynion tystiolaeth fanc, anfonwch e-bost atom: buddsoddiacariannu@celf.cymru
3 Sut i:
- 3.1 Creu cofnod banc
-
Yn eich cyfrif ar-lein yn ein porth grant, gallwch roi eich manylion banc a chyflwyno tystiolaeth o'ch cyfrif banc.
Pan fo gennych dystiolaeth fanc addas yn barod i'w huwchlwytho:
- Yn ein porth grantiau, ewch i Gweinyddu – Manylion Banc
- Llenwch yr adran Rhoi Manylion Banc Newydd a phwyswch Cyflwyno
- Uwchlwytho tystiolaeth ategol; ni allwch uwchlwytho hon yn ddiweddarach yn y porth. Er mwyn osgoi oedi yn nes ymlaen yn y broses, sicrhewch fod eich tystiolaeth yn bodloni ein gofynion. Mae'n bwysig bod y dystiolaeth fanc a uwchlwythwch yn cyfateb â’r manylion banc yr ydych wedi'u nodi
Gallwch ychwanegu sawl cyfrif banc at eich proffil i ganiatáu i wahanol grantiau gael eu talu i wahanol gyfrifon. Bydd angen i ni weld tystiolaeth fanc ar gyfer pob cyfrif rydych chi'n ei ychwanegu er mwyn dilysu'r manylion a gwneud taliadau i'r cyfrif.
Byddem yn gofyn i chi beidio â chreu sawl cofnod ar gyfer yr un cyfrif lle bo hynny'n bosibl. Os gwnewch hyn ar ddamwain, cysylltwch â ni: buddsoddiacariannu@celf.cymru a gallwn gael gwared ag unrhyw gofnodion diangen.
- 3.2 Gwneud newidiadau neu gyflwyno tystiolaeth ychwanegol
-
Ar ôl eu creu, ni fydd y porth yn caniatáu ichi olygu na dileu cofnodion banc nac uwchlwytho tystiolaeth ychwanegol.
Os bydd unrhyw un o'r canlynol yn wir:
- Mae eich cofnodion banc wedi dod i ben ac rydych am ddefnyddio'r cofnod ar gyfer grant newydd
- Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer cofnod banc sydd wedi'i greu
- Mae angen i chi ofyn am newid i gofnod banc
- Rydych chi am ddileu cofnod banc
E-bostiwch ni: buddsoddiacariannu@celf.cymru a rhowch wybod i ni am gyfeirnod y cyfrif banc dan sylw ar ein system, er enghraifft, BANC-123456.
Os bydd manylion eich cyfrif banc yn newid wrth i chi wneud eich prosiect, rhaid i chi roi gwybod i ni.
- Crëwch gofnod banc newydd (os nad yw'n bodoli eisoes yn y system) ac uwchlwythwch y dystiolaeth fanc berthnasol
- Wedyn bydd angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn symud y taliadau grant perthnasol i'ch cofnod banc newydd. Rhowch i ni y cyfeirnod perthnasol ar gyfer y grantiau yr hoffech eu diweddaru ynghyd â'n cyfeirnod o’r cofnodion banc: buddsoddiacariannu@celf.cymru
3.3 Derbyn grant
- 3.3.1 Nodyn cynnig grant
-
Os ydych yn llwyddiannus ac yn derbyn ein cynnig o arian, bydd y cysylltiadau a nodwyd gennych wrth wneud cais yn derbyn e-bost gyda chrynodeb o'r arian.
Bydd cyfarwyddiadau ar sut i dderbyn y grant i'w gweld yn yr e-bost. Bydd manylion llawn y grant a'r amodau yn cael eu disgrifio yn y porth lle bydd angen i chi dderbyn y grant.
- 3.3.2 Gwiriwch eich cofnod banc
-
Bydd angen i chi sicrhau bod y cofnod banc yr hoffech i ni dalu’r arian iddo yn cael ei arddangos yn eich porth yn y rhestr yn Gweinyddu – Manylion Banc
Am gymorth, ewch i: sut i greu cofnod banc newyddI wirio a yw'r cofnod banc yr hoffech ei ddefnyddio’n iawn, yn rhestr y cyfrifon banc yn eich porthol grantiau yn Gweinyddu – Manylion Banc gwiriwch fod y cyfrif banc yr hoffech ei ddefnyddio’n:
- Dilys = ie
- Bod y dyddiad dod i ben cyn y dyddiad y derbyniwch y cynnig
- Os yw wedi'i ddilysu a bod y dyddiad dod i ben ar ôl y dyddiad y byddwch yn derbyn y cynnig wedyn ni fydd angen unrhyw wybodaeth arall.
- Os yw wedi'i ddilysu a bod y dyddiad dod i ben cyn y dyddiad y byddwch yn derbyn y cynnig wedyn, gallwch ei ddewis o hyd a derbyn y grant, ond anfonwch dystiolaeth newydd atom sy'n bodloni ein gofynion ynghyd â'r cyfeirnod banc: buddsoddiacariannu@celf.cymru.Peidiwch â chreu cofnod banc newydd gyda’r un manylion.
- Os nad yw'r cofnod banc wedi'i ddilysu, gallwch ddewis y cofnod banc hwn o hyd wrth dderbyn y grant, a byddwn yn asesu eich cofnod banc ac unrhyw dystiolaeth a gyflwynwch ar ôl i chi dderbyn y grant
- 3.3.3 Derbyn
-
I dderbyn y grant a dewis cofnod banc i dalu’r grant iddo:
- Mewngofnodwch i'n porth grantiau, cliciwch yma i fewngofnodi
- Ewch i 'grantiau – ceisiadau a gyflwynwyd'
- Dewiswch y cofnod perthnasol o'r grid Ceisiadau a Aseswyd
- Bydd dewis y grant yn dangos manylion eich cais am grant
- Ar y tudalen hwn sgroliwch i lawr a dewiswch Parhau i’n penderfyniad
- Yma gallwch weld manylion ein cynnig gan gynnwys y taliadau ac unrhyw amodau ychwanegol ar eich grant
- Dewiswch Nesaf i lywio i'r tudalen Telerau ac Amodau a Derbyn
- Dewiswch y cofnod banc rydych chi am i ni dalu eich grant iddo gan ddefnyddio'r offeryn chwilio am fanylion banc
- Ar ôl i chi ddewis cofnod banc i dalu’r grant iddo a darllen y cynnig o grant a’r amodau cysylltiedig, gallwch dderbyn y grant gan ddefnyddio'r botwm ar waelod y tudalen
Ar ôl i chi dderbyn y grant, byddwn yn adolygu eich cofnod banc. Gall unrhyw broblemau sy'n codi o'n hadolygiad achosi oedi sylweddol i'ch taliadau a gall hyd yn oed olygu ein bod yn tynnu ein cynnig grant yn ôl.