Llunio cwestiwn ymholi

1) Creu’r cwestiwn

Mae dwy elfen i gwestiwn ymholi, sef y mewnbwn a’r deilliant neu’r effaith bosibl. Dylai cwestiynau ymholi fod yn gadarn ac yn syml, gan esbonio mewnbwn ac effaith ddisgwyliedig y prosiect.

Esiampl - Sut gellir defnyddio ymgysylltu â’r adnoddau yn ein hamgueddfa leol mewn ffordd greadigol (mewnbwn) i archwilio hanesion cudd yr ardal leol (allbwn).

Dyfeisiwch eich cwestiwn ymholi eich hun. Beth ydych chi am ei archwilio gyda’ch dysgwyr?

2) A ellir gwella’r cwestiwn?

- a yw dod o hyd i ateb yn gynnig rhesymol?

- a oes yna ddigon o ffocws i’r cwestiwn ymholi wrth ganiatáu’r cwmpas ar gyfer archwilio? 

- a yw’r mewnbwn yn glir? Os na, sut gellid ei wella neu ei ddatblygu?

- a yw’r amcan yn glir? Os na, sut gellid ei wella neu ei ddatblygu? 

- a yw’r cwestiwn ymholi’n ystyried gwahanol bartneriaid e.e. dysgwyr, staff, rhieni, y gymuned? 

- a yw’r cwestiwn ymholi’n gyson a’r cwricwlwm newydd?

3) Casglu Tystiolaeth

Bydd y dystiolaeth y gallech ei chasglu trwy brosiect dysgu creadigol yn dibynnu ar eich cwestiwn ymholi. Gallech ystyried y cwestiynau isod. 

Pa ddata neu dystiolaeth y gallech ei chasglu i ddangos cynnydd yng nghyflawniad a gwybodaeth y dysgwyr?

Pa ddata neu dystiolaeth y gallech ei chasglu i ddangos cynnydd yn agwedd a chredoau’r dysgwyr?

Pa ddata neu dystiolaeth y gallech ei chasglu i ddangos cynnydd yng nghreadigrwydd y dysgwyr?