Gwerthusiad o’r Rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau: gwaddol cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol mewn ysgolion a gymerodd ran
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau’r gwerthusiad o waddol y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol mewn ysgolion a gymerodd ran o 2015 i 2020.
Cyfeirir at yr effeithiau cadarnhaol yn yr ysgolion a gymerodd ran, a’u gallu i symud i ffwrdd o ddulliau dysgu ‘traddodiadol’ a gwreiddio addysgeg dysgu creadigol yn eu hysgolion.
Yn ogystal, sonnir hefyd am y newidiadau i arferion dysgu yr ymarferwyr creadigol a fu’n rhan o’r cynllun, a sut y llwyddasant i ddatblygu sgiliau a magu hyder.