Cafodd ei sefydlu ym 1895. Yn 2019 ymwelodd 593,616 o bobl â'r Biennale, Biennale Arte. Yn ystod tridiau’r rhagolwg yn unig, daeth 24,762 curadur, beirniad, casglwr ac artist rhyngwladol i’w gweld.
I ddeall maint y digwyddiad: cafodd 700,000 tocyn eu gwerthu i’r Biennale yn 2024.
Mae’r Cyngor wedi comisiynu arddangosfeydd ym Miennale Fenis naw gwaith gan ddechrau yn 2003. Y tro diwethaf oedd arddangosfa Sean Edwards, Undo Things Done yn 2019. Yn dilyn y pandemig, roedd seibiant ym mhresenoldeb y Cyngor yno yn 2022. Yn lle roedd Cymru Fenis 10, cyfuniad o ddeg cymrodoriaeth unigol i'r rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau gweledol, a chomisiynau drwy Artes Mundi a Chelfyddydau Anabledd Cymru.
Ar Ddydd Mawrth 6 o Fai, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn lansio galwad am fynegi diddordeb gan sefydliadau o Gymru sy'n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol i guradu a chyflwyno arddangosfa Cymru yn Fenis i’r 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol, La Biennale di Venezia.
Mae'r alwad yn dilyn ymrwymiad o'r newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i arddangos celf o Gymru ym Miennale Fenis yn 2026 ac yn rhai’r dyfodol yn 2028 a 2030.
Hanes Cymru yn Fenis
Dyma’r artistiaid a arddangosodd yno:
- 2019 – Sean Edwards
- 2017 - James Richards
- 2015 - Helen Sear
- 2013 - Bedwyr Williams
- 2011 - Tim Davies
- 2009 - John Cale
- 2007 - Richard Deacon, Merlin James, Heather & Ivan Morrison
- 2005 - Peter Finnermore, Laura Ford & Paul Granjon
- 2003 - Cerith Wyn Evans, Bethan Huws, Simon Pope & Paul Seawright